Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Mission Open 2008Open Exhibition

21 Mehefin - 12 Gorffennaf 2008

Mae’n bleser gan Mission Gallery gyhoeddi cyflwyniad y Mission Open.

Mae artistiaid sy’n gweithio mewn cyfrwng digidol neu 2D, o ardaloedd côd post SA – CF de Cymru, wedi’u gwahodd i gyflwyno celfwaith ar gyfer yr arddangosfa agored hon.  Bydd yr ymgeision yn cael eu beirniadu gan fwrdd cyfarwyddwyr Mission Gallery, a bydd enillydd y wobr yn derbyn £150 gan Mission Open.

Nod yr arddangosfa yw cynnwys ystod eang o gelf gyfoes o safon gan artistiaid sefydledig a rhai sy’n datblygu.  Rydym yn chwilio am waith sy’n cwmpasu  ystod eang o ddulliau ac mae diddordeb gennym mewn gwaith sy’n ymwneud â meysydd  artistig, cymdeithasol a diwylliannol cyfredol.

Bydd yr holl waith 2D ar werth, felly os ydych chi’n gasglwr sydd eisiau prynu celf gyfoes gan artistiaid o Gymru, neu’n artist sy’n chwilio  am gyfle i ddangos eich gwaith mewn arddangosfa gyhoeddus o safon, dewch i Mission Open 08.

<< Yn ôl tudalen