Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

MetaphorsGlenys Cour

20 Gorffennaf - 17 Awst 2008

Mae Mission Gallery yn falch i arddangos peintiadau newydd gan yr artist o Abertawe, Glenys Cour.  Yn un o aelodau sefydlu Mission Gallery, mae Glenys Cour wedi bod yn peintio ers dros chwe deg o flynyddoedd; ei hathro oedd yr artist modernaidd mawr, Ceri Richards.  Mae hi bob amser yn ei hailgyflwyno ei hun gyda phob corff o waith newydd; nid yw byth yn bodloni ar waith di-fflach ac ailadroddus, a bydd bob amser yn ceisio arbrofi, ailfywiogi ac adfywio’i gweledigaeth.

Mae’r cynfasau mawrion hyn, yn ddwys o liw, yn wyriad o’r collage fu’n hoff gyfrwng iddi yn ystod y degawd diwethaf ond mae ei phroses o greu delweddau yn parhau i ymwneud â throsiad: gan ddefnyddio pynciau i archwilio syniadau, synwyriadau ac emosiynau.

Ysgrifenna Peter Wakelin am yr arddangosfa; “Yn yr ystyr hwn, arlunydd Rhamantaidd yw hi, ac efallai bod y gweithiau hyn yn galw rhai o geunentydd John Martin i gof, tywyn arddunol y diweddar Turner, neu weledigaethau gorau Graham Sutherland o Sir Benfro.  Daw o hyd i ysgogiad diddiwedd yn uno a chymysgu'r môr, y tir a’r awyr y tu fas i’w ffenest yn edrych allan dros Fae Abertawe, eu heffeithiau a’u patrymau yn adnewyddu’n aflonydd gan adleisio ei chreadigrwydd”.

Dyw Glenys Cour byth yn caniatáu i’w chelf aros yn llonydd, gan weithio ag egni rhywun hanner ei hoed; mae hi unwaith eto wedi creu corff syfrdanol o waith newydd, sy’n llawn egni a phŵer barddol.

<< Yn ôl tudalen