Yr Oriel
MeltdownThirteen sculptors from Wales & beyond
19 Medi - 31 Hydref 2009
Robert Booth | Mike Davies | Tom Fabian | Andrew Griffiths | Robert Harding | Harvey Hood | Alison Lochhead
Roger Moss | Lee Odishow | Dilys Jackson | Justine Johnson | Matthew Tomalin | Peter Randall Page
Mae’r arddangosfa hon gan grŵp o dri cherflunydd ar ddeg o Gymru a thu hwnt, yn canolbwyntio nid yn unig ar y delweddau y mae haearn yn eu cynrychioli, ond hefyd ar yr ystyr y mae haearn yn ei roi i gerfluniau. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cysylltu haearn bwrw â naill ai cynhyrchu ‘belt-rhwd’ neu ein treftadaeth ddiwydiannol, yn hytrach na’r unfed ganrif ar hugain. Denwyd artistiaid yr arddangosfa at bosibiliadau haearn bwrw.
Mae’r broses o fwrw haearn yn defnyddio technoleg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg: ychydig o’r offer angenrheidiol y gellir eu prynu, felly mae’r rhan fwyaf o’r offer yn cael eu gwneud neu’u haddasu gan yr artistiaid unigol. Mae hyn wedi arwain at lawer o rannu cydweithredol o ran offer ac arbenigedd ymysg yr artistiaid hyn sy’n arddangos. Un o ganolfannau allweddol y rhwydwaith hwn yw Ysgol Gelfyddydau Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin, lle mae haearn bwrw ar y cwricwlwm ers 2006. Yn eu tro, mae myfyrwyr wedi mynd â’r arbenigedd hwn i’r Iwerddon a Phortiwgal. Bydd artistiaid yr arddangosfa hon fel arfer yn cynhyrchu darnau unigryw o fowldiau amlran, tra bo ffowndrïau diwydiannol wedi’u rhaglennu i gynhyrchu copïau a darnau cyson o fowldiau gweddol syml. Mae cerflunwyr Cymreig, ar y llaw arall, yn arbrofi â chynnwys metelau amrywiol yn yr haearn, a thrwy hynny’n cynhyrchu amrywiaeth o weddau a phatina. Gall y dull hwn arwain at gerfluniau sy’n cymysgu haearn â sawl cyfrwng arall, yn amrywio o serameg i ffabrig. Mae cerflunwyr Ewropeaidd sefydledig mor amrywiol ag Anthony Gormley, Guiseppe Penone a Thomas Schütte oll wedi archwilio posibiliadau haearn bwrw yn ddiweddar drwy ddefnyddio ffowndrïau diwydiannol: agwedd unigryw ar y datblygiadau cerfluniol yng Nghymru yw bod y castio’n DIY. Efallai bod y canlyniadau’n llai, ond, oherwydd rheolaeth lawn yr artist, mae’r canlyniadau’n fwy cymhleth.
Bwriad yr arddangosfa hon, a’r arllwysiad haearn cysylltiedig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yw cynyddu proffil y gelfyddyd atgyfodedig hon, ac mae’n rhagflaenydd i Chweched Gynhadledd Ryngwladol Cerfluniau Haearn Bwrw Cyfoes, a gynhelir fis Gorffennaf 2010 yn Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli. Mae dewis Cydweli yn lleoliad i’r gynhadledd, a fydd yn cynnwys dros 200 o gynrychiolwyr ledled y byd, yn adlewyrchiad o enw da cynyddol Ysgol Gelfyddydau Gorllewin Cymru ym maes haearn bwrw.