Yr Oriel
Marking SpaceCreative Industries Research & Innovation Centre
28 Mai - 12 Mehefin 2008
Claire Angove | Beate Gegenwart | Julia Griffiths Jones | Hyde + Hyde | Angela Maddock | Brenda Oakes
Kirsty Patrick | Anne Reynolds | Laura Thomas | Anthea Walsh | Delyth Walsh
Mae Mission Gallery yn falch i gael cynnal ‘Marking Space’ a drefnwyd gyda Chanolfan Arloesi ac Ymchwil y Diwydiannu Creadigol (CAYDC). Er 2005, mae CAYDC wedi gweithio ar fwy na 130 o brosiectau ymchwil greadigol ac wedi darparu cyngor ac arweiniad wedi’i deilwra i dros 275 o’i haelodau sy’n gweithio ar draws y sector creadigol yng Nghymru. Mae’r ymarferwyr creadigol hyn yn cynrychioli disgyblaethau mor amrywiol eang â fideo, celfyddyd gain a chymhwysol, pensaernïaeth, ffotograffiaeth a graffeg. Mae pob aelod wedi elwa ar becyn cefnogaeth unigryw CAYDC, sy’n cynnwys mynediad i’r technolegau digidol diweddaraf: ysgythru a thorri laser, argraffu digidol a golygu fideo.
Mae arddangosfa gyntaf CAYDC yn cyd-fynd â’i thrafodaeth undydd ‘Marking Space’. Mae’r arddangosfa amlddisgyblaeth hon yn amlygu gwaith staff ymchwil ac aelodau dethol CAYDC. Mae artistiaid a dylunwyr o sawl disgyblaeth wedi archwilio dehongliadau sydd weithiau’n wahanol iawn o ystyr ‘olion mewn gofod’. Mae’r archwiliadau hyn wedi bod yn llythrennol, yn drosiadol ac yn fetaffisegol. Tra bod rhai arddangoswyr wedi ystyried materion gofod o ran rhyw, perthyn a dadleoliad, mae eraill wedi holi ystyr gofod rhithiol a chorfforol: sut rydym yn trigo mewn gofod a sut rydym yn symud drwyddo. Maent oll yn datgelu bod gadael ‘olion mewn gofod’ yn gymhleth a diddorol: yn ail-greu’n barhaus, yn cyfyngu ond eto’n ddiderfyn, ac yn fwy na dim, yn heriol.
Crëwyd arddangosfa ‘Olion Mewn Gofod’ gyda chefnogaeth arbenigol a chyfleusterau CAYDC. Rhennir ‘Olion Mewn Gofod’ rhwng dau leoliad: ‘gofod’ CAYDC a’r Mission Gallery. Mae’r broses o rannu gofod yn pwysleisio’r cysylltiadau a’r cydweithredu sy’n greiddiol i’n nod o gefnogi a datblygu ymarferwyr celf greadigol yng Nghymru.