Yr Oriel
rydym i gyd yn fregus / we are all fragileChris Bird-Jones
11 Mehefin - 03 Gorffennaf 2021
Mae Chris Bird-Jones wedi cynhyrchu cyfres o ffurfiau tebyg i lwyau sy’n symbolaidd a synhwyrus. Mae trafod y darnau hyn yn gofyn gofal tringar; rhaid cymryd pwyll a’i wneud yn ddiogel gan fagu pob darn yn eich breichiau, fel plentyn newydd-anedig. Un llithriad a byddai’r cwbl yn cael ei golli, ei chwalu, gan adlewyrchu’r cyflwr dynol, bywyd yn y fantol.
Mae natur gwydr, deunydd o wneuthuriad dyn, yn adlewyrchu’r syniadau y tu ôl i’r gwaith. Ceir rhyw agwedd chwareus rhwng golau a symudiad wedi’i chyfuno â’r myrdd priodweddau hudol sy’n gynhenid i bob ffurf ar wydr. Dangosir y darnau hyn ochr yn ochr â delweddau symudol gan ychwanegu haenau o gyfeiriadaeth ac ambell ennyd o gyd-destun. Mae’r corff newydd yma o waith yn cynnwys olion straeon a phrofiad y mae rhywun wedi byw drwyddo gan gyfeirio at naratif Bird-Jones ei hun.
I weld ffilm fer o'r broses gwneud, cliciwch yma
Taith Arddangosfa Rhithiol o'r arddangosfa gan Matthew Otten.
Cyflwyniad i'r arddangosfa gan Ceri Jones, Cyfarwyddwr Creadigol Oriel Mission.
Traethawd gan Stevie MacKinnon-Smith mewn ymateb i’r arddangosfa.
Silver Lined | Ffilm gan Chris Bird-Jones a Paul Hazel, 2020
Sgwrs gyda Chris Bird Jones a Ceri Jones.
Trafodaeth gyda Chris Bird-Jones a Paul Hazel
Trafodaeth gyda Chris Bird-Jones a Malcolm Glover
I ddilyn Llwyo / Spooning gan Chris Bird-Jones ar facebook, cliciwch yma
Instagram #llwyo
Delweddau gan Dewi Tannatt Lloyd