Yr Oriel
Llinellau NewidiolJustine Allison
13 Ionawr - 04 Mawrth 2018
Curadwyd gan Ceri Jones
Mae’n bleser gan Oriel Mission barhau ei gyfres o arddangosfeydd teithiol serameg. Yn dilyn llwyddiant rhan un, mae Iaith Clai: Rhan Dau yn cynnwys tair arddangosfa bellach o waith gan dri artist serameg a seliwyd yng Nghymru, oll gyda ffyrdd gwahanol iawn o greu.
“Tyfais i fyny, gweithio a byw mewn rhan brysur o Lundain, ac mae fy ngwaith yn adlewyrchu hyn, gan fy mod yn cymryd ysbrydoliaeth o fywyd dinesig, (adeiladau, strydoedd, ffenestri, synau). Rwyf fi nawr yn byw yng Nghymru wledig, ac yn profi ystod wahanol o gymelliadau ac mae penodau newydd cyffroes yn agor yn ddyddiol…” Justine Allison
Ers gadael coleg, mae Justine wedi gweithio’n benodol gyda phorslen adeiladu a llaw - gan greu darnau lled ddefnyddiol. Cyfeiria’i gwaith tuag at y ffiniau rhwng defnydd ac addurn. Edrycha Justine ar wrthrychau a ddefnyddir yn ddyddiol; er enghraifft ffurf jwg a chreu darnau sydd yn symud i ffwrdd o swyddogaeth ac sydd yn ymdrin mwy gydag estheteg a’r gweledol. Mae ei gwaith yn edrych ar symlder a phrydferthwch clai gan gyfuno patrwm a gwead ynghyd a gwydredd i greu amrywiaethau tawel, unigryw. Mae teneuder a symudiad yn bwysig o fewn pob darn. Mae gan Justine ddiddordeb yn effaith trawsnewidiol golau ar briodoleddau ffisegol porslen. Pan oleuir gwrthrych syml o’r tu fewn, daw manylion craff i’r golwg a chrëir ‘awyrgylch’ sydd yn croesi swyddogaeth y gwrthrych.
Trefnir Iaith Clai gan Oriel Mission yn Abertawe ac fe’i ddarparir mewn partneriaeth â Chanolfan Grefft Rhuthun, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange ac Oriel Serameg Aberystwyth. Ariennir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i guradu gan Ceri Jones.
Am fwy o wybodaeth ar y prosiect, cliciwch yma
Ffotograffiaeth gan Toril Brancher