Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Let's See What HappensMaleonn Ma

28 Medi - 03 Tachwedd 2013

Bydd yr artist o Shanghai, Maleonn, yn parhau â phrosiect o'r enw Studio Mobile, lle bu'n teithio i 35 o daleithiau Tsieina, gan dynnu lluniau 20,000 o bobl mewn stiwdio ffotograffiaeth deithiol. Ysbrydolwyd Maleonn i greu'r gwaith hwn gan ei awydd i gydweithio â'r bobl mae'n tynnu eu lluniau, mewn ymgais i greu deialog. Yn hytrach na chreu gwaith yn ei stiwdio, mae'n mynd â'r stiwdio ar daith lle daw syniadau, gwrthrychau a setiau llwyfan yn rhan o weithred gydweithrediadol. Bydd yn tynnu lluniau detholiad o bobl mewn amrywiaeth o wisgoedd a fenthyciwyd gan amgueddfeydd lleol, ynghyd ag eitemau mae'n dod â hwy o Tsiena. Mae ei ffotograffau swrrealaidd yn dod â bydoedd gwahanol ynghyd - rhai dychmygol a rhai go iawn - ac yn cyfleu'r sefyllfa fyd-eang sydd ohoni.

Tim Davies | Yingmei Duan | Paul Emmanuel | Owen Griffiths | Maleonn | Fern Thomas | Zeng Huanguang

Mae Gawn ni weld... yn un o arddangosfeydd oddi ar y safle Oriel Gelf Glynn Vivian, ac mae'n cynnwys gwaith saith artist, pedwar o Gymru a thri o Tsieina. Fe'i cynhelir mewn chwe lleoliad ar draws canol dinas Abertawe a bydd yn arddangos amrywiaeth o ddulliau gweithio, gan gynnwys paentio, perfformiad, gosodwaith fideo ac arfer sy'n cynnwys y gymuned. Mae pob lleoliad yn wahanol, ond mae gwaith yr artistiaid wedi'i gysylltu gan y profiad maent yn ei rannu o dreulio amser gyda'i gilydd yn Abertawe, Xiamen a Shanghai. Mae'r arddangosfa'n adlewyrchu'r sgyrsiau buont yn eu rhannu am eu gwaith, eu bywydau, y lleoedd maent yn byw ynddynt, eu dulliau celfyddydol amrywiol a'r syniadau maent wedi eu cyfnewid.

Arddangosfa Oddi ar y Safle Glynn Vivian mewn partneriaeth â Grŵp Tai Coastal, Oriel Elysium, Oriel Mission, Ysgol y Tlodion, Marchnad Abertawe a YMCA Abertawe.

Cefnogir Gawn ni weld... gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Cyngor Prydeinig - Cysylltiadau Trwy Gyfrwng Diwylliannau, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, y Confucius Institute, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Delwedd: Maleonn, Studio Mobile, 2012 trwy garedigrwydd yr artist.

<< Yn ôl tudalen