Yr Oriel

  • Header image

KABELArddangosfa Pop-up

25 Ionawr - 08 Chwefror 2025

Mae'n bleser gan Oriel Mission gyflwyno arddangosfa pop-up KABEL drwy fis Ionawr a mis Chwefror 2025. Dechreuodd KABEL fel cydweithrediad creadigol rhwng y brodyr Anthony Matsena a Kel Matsena ac artistiaid cyswllt Sue Williams, Melissa Rodrigues, Laurentina Miksys, Beth Lewis ac Alex Hermon. 

Yn deillio’n wreiddiol o gyfnod preswyl yn Oriel Mission, mae KABEL yn archwilio gwrthdaro, ei achosion a'i oblygiadau. Gan gydweithio gydag artistiaid gweledol, ffilm ac ymarferwyr sain, arweiniodd y coreograffwyr/cyfarwyddwyr Anthony a Kel waith ymchwil a datblygu pellach yn 2023/2024.

Mae'r cam ymchwil a datblygu hwn yn dilyn cyfnodau preswyl byr a gynhaliwyd gan Anthony a Kel yn Oriel Mission yn 2021. Trefnwyd y cyfnodau preswyl hyn i ehangu archwiliadau creadigol Anthony a Kel ymhellach ac i wahodd ymarferwyr eraill i gwrdd â nhw. Profodd y profiad hwn yn gam pwysig yn eu proses greadigol. Amlygodd trafodaethau gydag ymarferwyr eraill yn ystod y cyfnod hwn sut y gallai gwaith traws-ddisgyblaethol agor llwybrau ymchwil newydd. 

Fel coreograffwyr, awduron a chyfarwyddwyr, gweithiodd Anthony a Kel ar y cyd â’r artistiaid gweledol Melissa Rodrigues a Sue Williams, yr artist sain Beth Lewis a’r ffotograffydd Laurentina Miksys, gyda’r gwaith datblygu diweddarach gyda’r fideograffydd Alex Hermon. Roedd y ffordd gydweithredol hon o weithio yn caniatáu gwaith datblygu pellach gydag uchelgais creadigol gwirioneddol.

Cynorthwywyd KABEL gan 'Creu', Rhaglen Ariannu’r Celfyddydau gydag arian y Loteri Genedlaethol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. 

KABEL Exhibition

KABEL Exhibition

KABEL Exhibition

KABEL Exhibition

KABEL Exhibition


Anthony Matsena

Yn enillydd BAFTA, mae Anthony yn gyfarwyddwr, yn awdur, yn berfformiwr ac yn goreograffydd a anwyd yn Zimbabwe a’i fagu yng Nghymru, gan weithio'n rhyngwladol ar draws dawns, theatr, ffilm a pherfformiadau safle-benodol. Roedd yn gyd-sylfaenydd Matsena Productions gyda’i frawd Kel yn 2017 i archwilio themâu diwylliannol, hil, newid a pherthyn, gan adlewyrchu ar ei fagwraeth yn Affrica a'i addysg yn Ewrop.

Daeth cyfle mawr Anthony fel Cydymaith Ifanc Sadler’s Wells yn 2018, lle creodd weithiau ar gyfer Lilian Baylis Studio Theatre a’r prif lwyfan. Mae ei gomisiynau diweddar yn cynnwys prosiectau gyda Sky Arts, BBC, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cyfoes Korea, Jasmin Vardimon 2, Messums Wiltshire, National Theatre Wales, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Rambert School of Contemporary Dance a Choleg CAPA. 

Mwy am Anthony

 

Kel Matsena

Yn enillydd gwobr BAFTA, mae Kel yn gyfarwyddwr, yn gyfarwyddwr symudiadau, yn awdur ac yn actor o Zimbabwe/Cymru. Mae ei ddealltwriaeth wych o symudiadau yn dylanwadu'n drwm ar ei ffurf o adrodd straeon. Mae ei agwedd unigryw at greu ffilm a theatr wedi ei osod wrth wraidd cenhedlaeth newydd o artistiaid Cymreig. Mae Kel hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Artistig y cwmni gwobredig ‘Matsena Productions’.

Yn ddiweddar bu’n cyfarwyddo symudiadau’r cynhyrchiad Off-Broadway ‘The Hunt’, gan weithio gyda sêr fel Tobias Menzies a Myanna Buring. Gweithiodd gyda Ffilm Cymru a’r BBC i ddatblygu ei ffilm fer ddiweddaraf ar gyfer gwobr ddatblygu’r Beacons. Gweithiodd hefyd gyda National Theatre Wales i gyfarwyddo addasiad ‘The Trial’ gan Kafka a gafodd ei lwyfannu am y tro cyntaf yn Abertawe yn 2023.

 

Sue Williams

Mae Sue Williams yn artist rhyngwladol blaenllaw gyda chorff cydnabyddedig o waith a hanes o arddangos mewn sioeau unigol a grŵp ar bum cyfandir. Mae ei hymarfer hunan-ethnograffig, boed yn ddarlunio neu’n destun, yn cyfleu cymhlethdodau perthnasoedd dynol mewn cyd-destun diwylliannol cyfoes – yn weledol neu’n destunol mae’n dangos bregusrwydd sy’n ennyn ymateb effeithiol yn ddi-ffael. Mae Williams yn parhau i herio ac archwilio cysyniadau newydd a ffurfiau celfyddydol aml-ddisgyblaethol drwy gynnig ymateb uniongyrchol i fyd cymhleth eiddilwch dynol, gan ddenu’r gwyliwr i fyd o wleidyddiaeth rywiol ac emosiynol bryfoclyd.

Mae Williams yn Athro Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymry y Drindod Dewi Sant ac yn un o artistiaid cyfoes benywaidd amlycaf Cymru.

Mwy am Sue

 

Laurentina Miksys

Ffotograffydd portreadau yw Laurentina sy’n dod yn wreiddiol o Lithwania.

Mae ei gwaith yn gysylltiedig â chreu ffurfiau newydd yn gyson, cyd-dreiddiad y gorffennol a'r presennol. Mae'n archwilio gwahanol lefelau o realiti: realiti pwy neu beth sy'n cael ei ddisgrifio gan y ddelwedd a realiti profiad a theimlad; boed y gwrthrych, y gwylwyr, neu hi ei hun. Mae gan ddelweddau Laurentina delynegiaeth a synwyrusrwydd arbennig a golygon optimistaidd ar ddyn a bywyd.

Mwy am Laurentina

 

Alex Hermon

Gwneuthurwr ffilmiau llarwydd yw Alex Hermon sydd wedi gweithio yn y diwydiant ers 7 mlynedd ar amrywiaeth o brosiectau ym maes Digwyddiadau, Brandiau Ar-lein, Teledu a Ffilm. Yn 2020, sefydlodd Alex ‘LX Visuals’, cwmni cynhyrchu fideos annibynnol yn Ne Ddwyrain Lloegr sydd wedi ennill nifer o wobrau. Wedi'i ysgogi gan uchelgais ac angerdd brwd dros adrodd straeon, mae'r tîm yn LXV yn arbenigo mewn dod â'ch gweledigaeth yn fyw a chreu profiadau gweledol unigryw.

Mwy am Alex

 

Melissa Rodrigues

Mae Melissa Milanca Balencante Rodrigues yn artist celfyddyd gain o Abertawe. Ganed Melissa yn Guinea-Bissau, a bu’n byw ym Mhortiwgal o oedran ifanc tan 2016.

Graddiodd Melissa mewn celfyddyd gain o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Gorffennaf 2019. Mae hi’n defnyddio amrywiaeth o gyfryngau i greu ei gwaith, fel paentio, ffotograffiaeth, gosod a cherflunio.

Mae ei gwaith yn archwilio themâu dadleoli, perthyn, a hunaniaeth ddiwylliannol, ac agweddau cyffredinol sy'n ymwneud â symudiad pobl ar draws y byd. Mae gwaith Melissa yn ystyried magwraeth pobl mewn cymunedau diasporig, y mae ganddi hi ei hun brofiad ohono. Felly, mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddod o hyd i gysylltiadau rhwng y portread o'r corff ethnig mewn hanes a sut y gall hyn ddylanwadu ar hunan-werth a hunaniaeth.

Mwy am Melissa

 

Beth Lewis

Cyfansoddwr ac artist sain yw Beth sy’n creu profiadau sain ymdrochol ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys theatr byw, gosodweithiau XR a pherfformiadau cyngerdd. Mae Beth yn gweld sain fel elfen hanfodol wrth siapio siwrnai’r gynulleidfa, ac mae ganddi ddiddordeb mewn creu profiadau clywedol i newid canfyddiadau wrth lywio’r naratif. Drwy ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd, gan gynnwys graffeg 3D, peiriannau gêm, DAWs a nodiant sgôr, mae fy ngwaith yn dod ag agwedd gydweithredol ffres tra'n pylu’r ffin rhwng gosodweithiau, profiadau XR a theatr byw.

Mae Beth wedi cydweithio gydag artistiaid a sefydliadau gan gynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Matsena Productions, Sky Arts a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cyfoes Korea. Mae ei gwaith wedi cael ei berfformio ar draws y byd o Sadlers Well’s i Ganolfan Gelfyddydau Seoul. Cafodd ei ddarlledu gan Sky Arts a S4C.

Mwy am Beth

 


 

1. Delwedd Prosiect KABEL (Anthony a Kel Matsena). Ffotograffwyd gan Laurentina Miksys gyda chefnogaeth Melissa Rodigues.

 

<< Yn ôl tudalen