Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Arddull Japaneaidd:Dylunio CynhaliolPensaernїaeth Japaneaidd

19 Ionawr - 10 Mawrth 2013

Ffocws Oriel Mission Ionawr yma ywJapangydag arddangosfa o bensaernїaeth a chrefft Japaneaidd. Mae’r arddangosfa Arddull Japaneaidd: Dylunio Cynhaliol yn cynnwys gwaith gan rhai o benseiri blaenllawJapan.

Wedi’i wreiddio mewn dylunio cynhaliol, dengys gwaith amrywiol yr arddangosfa yma gyfraniad hanfodol estheteg a chymuned i gynnal ein amgylchedd brau. Arsylwa Michael Nixon, curadur Arddull Japaneaidd, “Mae penseiri ar linell flaen ail-werthuso y ffordd rydym ni yn byw ein bywydau. Defnyddia’r penseiri Japaneaidd yma adnoddau effeithlon ac maent yn edrych i sicrhau datblygiad cynhaliol, gan wneud eu dyluniadau yn brydferth hefyd.”

Mae penseiri wedi chwarae rhan bwysig yn adluniad Dwyrain Japan ar ôl daeargryn a tsunami difrodol Mawrth 2011, ac mae’r arddangosfa yn cynnwys peth o’r gwaith hyn. EisteddaJapanar gwsb cyffordd plât triphlyg y Pasiffig-Phillippine- Eurasia, lle mae’r rhyngweithiad cymhleth rhwng y tri plât tectonig yn anrhagweladwy ac yn llawn o botensial gweithgarwch. Ychwanega y cefndir dramatig yma i feddwl y penseiri Japaneaidd sydd llawer mwy cydwybodol o freuder sefyllfa dyn ar y planed.

Arddengys gwaith gan nifer o benseiri sydd mewn gwahanol ffyrdd yn ffocysu ar ddatblygiad cynhaliol.

Kazuya Morita, Stiwdio 2

Pensaer oKyoto, hyfforddodd Kazuya i fod yn blastrwr yn wreiddiol. Arbenniga yn y ffordd gall ffyrdd traddodiadol o adeiladu gael eu haddasu i fywyd cyfoes. Mae ei adeiladau modernaidd yn cyflogi technegau adeiladu traddodiadol. Tŷ preifat yn agos iNagoyayw’r adeilad pentagonol un llawr â gorffeniadau arbennig o nenfydau a lloriau pinwydden yn erbyn plaster gwyn pur. Dyluniodd llochesau argyfwng hefyd lle gellid eu hadeiladu gan bobl wrth ddefnyddio defnyddiau lleol syml.

Tono Mirai, Stiwdio 3

Defnyddia Tono Mirai ddefnyddiau naturiol fel clai, pren, pridd a gwellt. Bydd yr arddangosfa yma yn cynnwys ei waith cynnar o’r gyfres ‘Nest’ ynghyd a’i waith mwyaf diweddar lle archwilia’r defnydd o waliau pridd.

Mae gan Mirai ddiddordeb mewn creu amgylcheddau i blant ac ennillodd gwobrau yn ddiweddar o Sefydliad Plant Japaneaidd a’r Sefydliad Adeiladu Tŷ Traddodiadol. Bydd yr arddangosfa yn dangos delweddau o’i waith gwobrwyedig ac hefyd ffotograffau o’i daith diweddar i ardalSendai(trêf cartrefol Tono Mirai). Edrycha’r ffotograffau ar y dinistr â grewyd gan y daeargryn a’r tsunami, ond defnyddia Tono Mirai y profiad hefyd i ysbrydoli ei ddyluniadau ar gyfer tai gall fod yn rhan o ail-ddatblygiad ardalSendai. Ei ateb yw i adeiladu gyda pridd oherwydd ei argaeledd a’i gynhaliadwyedd ond hefyd ei allu i fod yn hyblyg ac i ymdopi â difrod.

Preswyl Tono Mirai

Cyflawnodd Tono Mirai breswyl yng Nghanolfan Crefft Rhuthun rhwng yr 2ail – 30ain o Ebrill 2012. Thema’r preswyl oedd llochesau i blant. Creda Tono Mirai bod dyluniad lloches yn gallu creu hafan diogel i blant bydd nid ond yn eu hamddiffyn ond hefyd yn annog eu creadigrwydd.

Stiwdio Fferm Archi, Stiwdio 5

Dylunia Stiwdio Fferm Archi adeiladau sydd yn defnyddio pŵer solar i wresogi a goleuo. Cyfuna’r tîm yr ymarfer pensaernїol gwahanol yma gyda ffermio. Mae’r fferm yn tyfu cropiau organig, gan ddefnyddio ffyrdd ac offer traddodiadol, gan bwysleisio’r cysylltiad rhwng lloches a’r cynhyrchiad o fwyd.

Bydd yr arddangosfa yma yn dangos ffotograffau a darluniau cysyniadol o’u gwaith pensaernїol ac hefyd lluniau o’u bywyd ffermio, y ffyrdd a’r offer traddodiadol maent yn eu defnyddio. Ysbrydolir ffermwyr eraill yn yr ardal i ail-feddwl eu hymarfer ffermio personol, ac i ddychwelyd i ffyrdd o weithio sydd mewn harmoni â natur.

Mae’r adeiladau pur, glân a chain wedi’u sylfaenu gyda chydbwysedd rhwng yr amgylchedd naturiol ac adeiladol . Gwna hyn eu pensaernїaeth yn fwy apelgar a llwyddiannus.

Preswyl Pensaernїol Rhyngwladol

Y pedwerydd rhan i’r stori pensaernїol Japaneaidd yw Preswyl Pensaernїol Rhyngwladol.

Wedi’i enwi Nurturing the Spirit, daeth y preswyl yma â Labordy Osamu Ishiyama o Brifysgol Waseda, Tokyo; Mark Smout a Laura Allen o Ysgol Pensaernїaeth Bartlett,UCL Llundain a Mathew Jones a Rhian Thomas o Uned Dylunio yr Ysgol Gymreig Pensaernїol at ei gilydd. Cyfnewidodd y dair brifysgol syniadau yn drydanol a daethant at ei gilydd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun i greu darn gosod. Gellid gweld canlyniadau’r credigrwydd yma yn yr arddangosfa. Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys ffilm o’r preswyl wedi’i greu gan y gwneuthurwr ffilm ifanc Cymreig Jessica Balla.

Arddangosfa Teithiol o Ganolfan Grefft Rhuthun yw’r arddangosfa. Gellid gweld yr arddangosfa llawn, fersiwn golygol yw hwn, ar www.japanseasonwales.com

Yn y Lle Crefft:

Naori Priestly

Astudiodd Naori Priestley Cyfrwng Amrywiol yng Ngholeg Celf Brenhinol, Llundain ac hefyd cerflunwaith ynTokyoac Efrog Newydd. O ongl darluniol a bywgraffiadol, mae gwaith Naori yn cyfleu’r ochr dywyll, sinistr o fywyd pob dydd gyda gorffeniad doniol. Defnyddia sgiliau crefft tecstil domestig, er enghraifft gwau â llaw, crochet, brodwaith, appliqué a ffeltio llaw mewn cyfuniad â thechnoleg digidol fel brodwaith cyfrifiadurol. Dywed ei gwaith am chwedlau gwerinol a hwyangerddi plant ‘lle mae realiti, breuddwydion ac hunllefau yn ymdoddi i un fyd swrrealaidd’ trwy swyn chwareus llygredig.

Kaori Tatebayashi

Seramegydd Japaneaidd yw Kaori, wedi’i selio yn Llundain, sydd yn creu crochenwaith a cherflunwaith syml, cain. Masnachodd teulu Kaori crochenwaith ynKyotoac felly cafodd ei hamgylchynnu â crochenwaith Japaneaidd o oedran ifanc. Fe’i hysbrydolir gan ffurfiau a siapau naturiol, adlewyrchir cribynnau mynyddoedd, cysgodion ac amlinellau natur yn ei darnau. Caiff pob darn ei fowldio gyda thechneg arbennig gan rhoi cymeriad unigryw i bob un darn. Astudiodd Kaori serameg ynKyoto, Japan ac yn y RCA, Llundain ac arddangosir yn aml yn y DU aJapan.

<< Yn ôl tudalen