Yr Oriel
Live Out LoudJane Phillips
30 Gorffennaf - 29 Awst 2011
Mae’n bleser gan Mission Gallery gyflwyno arddangosfa o beintiadau gan Jane Phillips.
Lliw yw newyddion mawr y tymor hwn; mae’r byd ffasiwn mewn cariad â blocio lliwiau eofn. Ymysg y lliwiau mae’r llwyfannau ffasiwn i gyd yn arddangos adfywiad o’r 70au; mae’n briodol, felly, bod Mission Gallery yn cyflwyno’r arddangosfa hon o beintiadau sy’n boddi dan liw, i ddathlu creadigrwydd, bywyd a chyflawniadau Jane Phillips (1957-2011), Cyfarwyddwr cyntaf Mission Gallery.
Astudiodd Jane radd BA Anrh. Celfyddyd Gain (Peintio) yn ystod 1977-1979 yn Ysgol Ganolog Celf a Dylunio, Llundain. Mae’r peintiadau’n fywiog, gydag egni’r lliwiau’n creu peintiadau sy’n wledd i’r llygaid.
Yn ogystal â gweithiau mawr, bydd yr arddangosfa’n cynnwys tystiolaeth o ddarlunio obsesiynol a ddominyddodd ei gwaith mewn gwirionedd, gan gynnwys; darluniadau o’r arfordir a choed, astudiaethau lliwiau penboeth, patrymau geometrig a gwneud marciau.
Yn drist iawn, bu farw Jane Phillips ar 6 Chwefror 2011 wedi salwch hir. Rhoddodd Jane Phillips ei gwaith a’i gyrfa i Mission Gallery, gan ddechrau trefnu arddangosfeydd ym 1980, a datblygu yn un o’r bobl fwyaf deinamig yn gweithio mewn celf a chrefft weledol yng Nghymru. Diolch i Jane Phillips fod Mission Gallery wedi datblygu ethos i gefnogi artistiaid ifanc a/neu newydd; gam gymryd risgiau a chynnig cyfleoedd a heriau newydd.
Mae darganfod tarddiad prosesau gwaith Jane yn adlewyrchu’i hethos artistig, fel artist ac fel cyfarwyddwr. Tyfodd ei chefnogaeth a’i hanogaeth o artistiaid ifanc o’i huchelgais a’i hangerdd ei hun. Mae’r arddangosfa hon yn rhoi cipolwg i ni ar angerdd yr artist a ddatblygodd Mission Gallery i fod yn oriel gelf a chrefft gyfoes lwyddiannus.
Mae hefyd yn gyfle i fod yn un o’r cyntaf i glywed am Wobr Jane Phillips;
I fentora, meithrin a chefnogi twf artistig proffesiynol artistiaid ifanc a newydd yn y Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol
Dyddiad lansio: Nos Wener, 5 Awst 2011 am 7pm, gan Nathalie Camus, Uwch Swyddog y Celfyddydau Cymhwysol, Cyngor Celfyddydau Cymru yn Mission Gallery.