Yr Oriel
In and out of the bookSwansea Metropolitan University Surface Pattern Design Students
31 Ionawr - 28 Chwefror 2008
a fydd yn cael ei agor gan Jay Young
Bydd myfyrwyr israddedig Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn arddangos eu gwaith yn ystod arddangosfa bythefnos o hyd yn Mission Gallery Abertawe. Bydd myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn y cwrs Dylunio Patrwm Arwyneb yn dangos darnau ar sail thema’r arddangosfa; ‘In and Out of the Book’. Mae detholiad cyffrous o ddefnyddiau a thechnegau wedi’u defnyddio gydag ystod eang o themâu prosiectau unigol, gan gyfleu cwmpas y cwrs a gallu’r myfyrwyr.
Cafwyd ffynhonnell wych o help ar gyfer y prosiect hwn gan y Dylunydd Llyfrau o Gaerdydd, Jay Young, a fydd yn agor yr arddangosfa.
I nifer o fyfyrwyr, dyma fydd y tro cyntaf i’w gwaith gael ei arddangos mewn lle cyhoeddus mor uchel ei barch, gan roi’r cyfle cyffrous i’r cyhoedd gael mynediad i ddyluniadau a chelf gyfoes gan unigolion blaengar.
Bydd y myfyrwyr sy’n arddangos yn ‘In and Out of the Book’ hefyd yn gwerthu eu cardiau San Ffolant unigryw, a wnaed â llaw, yn yr oriel am hyd yr arddangosfa.