Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image

Catherine Biocca, Cornelia Baltes, Rosalie SchweikerLouise Hobson | Jane Phillips Curatorial Residency

19 Mawrth - 09 Ebrill 2016

Detholwyd Louise Hobson fel derbyniwr Preswyl Curadurol Gwobr Jane Phillips ym Mawrth 2015, cyfle newydd o fewn Gwobr Jane Phillips i gefnogi datblygiad curadurol artist gyrfa gynnar. Cynigodd y cyfnod preswyl i Louise stiwdio yn Stiwdios Elysium am fis ymchwil a datblygiad; gwobr deithio o £500 am ymchwil tramor; a chyfnod o dair wythnos yn rhaglen Oriel Mission i guradu arddangosfa.

O fewn y fframwaith yma mae Louise wedi sicrhau arian i deithio i Efrog Newydd ac i weithredu ar wahoddiad ein partneriaid Residency Unlimited, gan ymrwymo i gyfnod preswyl o fis, a chronfa arall i ddatblygu arddangosfa newydd gan weithio gydag artistiaid o fewn a thu allan i Gymru, gyda chymorth a chyngor Gavin Wade, Cyfarwyddwr Eastside Projects.

Mae Louise yn gweld ei rôl fel cychwynnydd, yn edrych ar yr arddangosfa fel gwagle i’w strwythuro dros gyfnod o amser drwy broses cronnus o gydweithio - haenau o sgyrsiau, syniadau a systemau - yn gwahodd artistiaid gyda chwestiwn agored y gwagle arddangos a tair wythnos. Man dechrau'r gwahoddiad yma oedd myfyrio ar adeiladwriaeth dros dro a symudol, gwagle a chyfnewid, ond i fod yn agored i botensial cydweithio, gall yr arddangosfa fodoli fel nifer o bethau.


Cliciwch yma i lawrlwytho ein llyfryn diweddaraf.

<< Yn ôl tudalen