Yr Oriel

  • Header image
  • Header image

House of MirrorsRob Olins with composer Douglas Benford

15 Medi - 04 Tachwedd 2012

Cyfres o ddrychau a seinyddion acwstig yw ‘House of Mirrors’, gyda’r rhain wedi eu lleoli mewn fordd i greu tirlun sain lle symuda’r gynulleidfa trwy’r gwagle, ac fel symudant, fe’u hamgylchynnir gyda sain a naratif y gymuned lleol a’i hanes. Ffocysa’r adlewyrchwr sŵn y gwylwyr gan greu delweddau clywedol. Ar adegau bydd eraill o fewn yr arddangosfa yn gallu clywed y synnau hyn yn eglir; hyd yn oed pan yn bell i ffwrdd. Ar y llaw arall gall person fod yn agos iawn heb glywed dim byd o gwbl.

‘Recordiau maes’ yw’r sain, o lleoliadau agos ac arfordirol Abertawe gan greu colaj sonig o’r tu allan sydd yn cynnwys synnau naturiol a gwneud. Cyflwynir ac adlewyrchir y synnau hyn yn yr oriel gan y podiau adlewyrchu acwstig cerflunol. Yn amrywio o rhan cymhlethdod yn dibynnu ar lleoliad yr unigolyn, caiff y sain ei allyrru gan system sain syml o seinydd sfferaidd.

Arwynebau llyfn seigiol yw adlewyrchyddion acwstig sydd yn adlewyrchu neu ffocysu’r sain. Mae’r adlewyrchyddion yn ‘House of Mirrors’ â lliw fflat sydd yn cysylltu i sŵn dominyddol bob pod, gan greu cysylltiad gweledol i’r berthynas rhwng amlder y sain a golau.

 

Lleoliadau recordiol, gan gynnwys ymysg eraill

Ar y trên yn teithio i Abertawe (yn dechrau o Bort-Talbot), gan gynnwys platfformau mewnol gorsaf Abertawe a’r awyrgylch allanol

Eglwys St.Mary, y lle mewnol a cloch y cloc

Loc y porthladd gan gynnwys y larwm a traffig cychol/argae, y porthladd a caffis

Gorsaf Bws Abertawe

Tŷ genedigol Dylan Thomas (allanol)

Canolfan siopa a’r marchnad dan-dô

Campws y Brifysgol (gan gynnwys cloch y cloc)

Bae Abertawe, y traeth a’r môr

Blackpill (gwyneb y môr)

Y Mwmbwls (lleoliadau amrywiol)

<< Yn ôl tudalen