Yr Oriel

  • Header image

Gyda'n Gilydd / Together

27 Tachwedd - 08 Ionawr 2022

Fel rhan o raglen ‘Gyda’n Gilydd’ Oriel Mission ar gyfer y Nadolig, rydyn ni’n agor ein gofod arddangos i bobl fwynhau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau creadigol.

Ochr yn ochr â rhaglen o berfformio, gweithdai ac adrodd straeon, bydd yr oriel yn cynnig marchnad naid a fydd yn newid bob wythnos. Yn cynnwys gwaith gan artistiaid hen a newydd, dyma gyfle i fwynhau a buddsoddi yn ein cymuned greadigol.


 

Fel rhan o arddangosfa Gyda’n Gilydd / Together Oriel Mission, rydym ni wedi bod yn dysgu am draddodiadau ac arferion eraill yn ystod yr amser hwn.

Gyda heddiw yn Yalda, sef y noson hiraf a’r tywyllaf o'r flwyddyn yn niwylliant Persia, dyma ddarlleniad o gerdd gan y bardd Shams Al-din Hafiz Shirazi i ddathlu.

Darlleniad gan Shahsawar Rahmani.

<< Yn ôl tudalen