Yr Oriel
Gardd y GaeafArddangosfa Grŵp
23 Tachwedd - 04 Ionawr 2020
Arddangosfa grefftau sy’n dathlu lliwiau a phatrymau cyfoethog bore oer a ffres ym mis Rhagfyr – dyddiau byrion, dechrau niwlog i’r diwrnod a bysedd rhewedig.
Mae’r gweadau, lliwiau a phatrymau a welir mewn gardd farugog yn cael eu hadlewyrchu yma. O dorluniau pren unlliw a gwaith lledr cerfluniol i fasgedwaith a gwaith enamel, ymlwybrwch drwyddynt gan fwynhau’r lleoliad llonydd yma. Arddangosfa Nadoligaidd dawel.
Artistiaid:
Llio James, Eluned Glyn, Sally Hands, Mandy Coates, Diane Horne, Buddug Humphreys, Fflur Owen, Caroline Rees, Rhiannon Gwyn, Lillemor Latham