Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Fugitive TestimonyStill Restless: Photography, Evidence, Time

13 Mawrth - 25 Mawrth 2010

Mae’n bleser gan Mission Gallery gyflwyno arddangosfa o waith gan fyfyrwyr Ffotograffiaeth Prifysgol Fetropolitan Abertawe.  Mae arddangoswyr dethol wedi’u gwahodd i ystyried eu gwaith mewn perthynas â chyfres o luniau neu ddarn byr ar sail amser, gan fynd i’r afael yn fras â’r teitl uchod.

Mae’r gwrthddywediad nodedig hwn: “…tystiolaeth bendant ond diflannol…”[1] yn un yn unig o’r disgrifiadau barddol a gynigir gan Roland Barthes ar gyfer y ddelwedd ffotograffig ddeng mlynedd ar hugain yn ôl yn Camera Lucida: Reflections on Photography (y llyfr mwyaf dylanwadol a gyhoeddwyd ar y pwnc[2]).  Fel y nododd Geoffrey Batchen yn ddiweddar, mae’r ffaith nad ydym yn gallu symud y tu hwnt i’r geiriau hyn, ac yn dal i grafu pen ynghylch natur y cyfrwng hwn sy’n newid o hyd, yn destament i lyfr Barthes a ffotograffiaeth ei hun. Gan fynd i’r afael â syniadau tystiolaeth drwy archwilio perthynas y cyfrwng â hunaniaeth, amser a gwirionedd, mae’r arddangosfa hon llawn cymaint am ffotograffiaeth ag ydyw o ddelweddaeth ffotograffig.

 

AMI BARNES

Rhai pobl sydd wedi ymwneud â mi fel endid goddrychol

Mae’r gwaith hwn a arweinir gan broses yn gofyn i ni wynebu gwrthrycholiad cynrychioladol wrth archwilio’r berthynas rhwng golwg a’r profiad goddrychol.  Hysbysebodd Barnes ar-lein ac mewn siopau lleol am bobl a fyddai’n ei chaniatáu i mewn i’w hystafelloedd gwely a dal camera wrth iddi orwedd ar eu gwely, yn fronnoeth.  Yna cymerodd lun ohoni’i hun wrth iddynt sefyll uwch ei phen.  Rhoddodd Barnes gyfle i’w chydweithwyr ei gwrthrychu hi wrth iddi wneud ei hun yn oddefol, yn wrthrych benywaidd ystrydebol.  Fel y dywed hi, “Mae pob llun yn ganlyniad proses gydweithredol rhyngof i a’r arall allanol; yr arall yr wyf yn gweld fy hun drwyddynt.”

 

OLIVER CAUSLEY                   

Rhwng

Gan ddefnyddio hen gamera a fformat cyfrwng ffilm sydd wedi dyddio, mae recordiad atgofus Causley o broses datblygu SA1 Abertawe yn cyfeirio at y gorffennol, wrth hefyd gyfeirio at estheteg delweddaeth ddigidol ffug y canlyniad terfynol arfaethedig.  Wedi’u gweld o bellter, mae’r delweddau hyn o’r ardal ynghanol y gwaith datblygu yn dal byd sydd wedi’i rewi mewn newid penodol rhwng dechrau a diwedd.

 

TIM CROOKS                          

Gwallgofdy

Cafodd West Park (a agorwyd yn 1920au a chau yn y 1990au) ei weld, fel dywedodd David Cochrane, fel “y gwallgofdy mawr olaf i’w adeiladu ar gyfer y gwallgof yn Llundain.”  Yn gartref i dros 2,000 o gleifion seiciatrig ar un adeg, mae bellach yn wag, yn aros am waith ailddatblygu, yn hoff leoliad ar gyfer yr hobi cyfoes, fforio trefol.  Mae cyfarpar meddygol ac eitemau cyn-gleifion wedi’u gadael, ac yn dystion i hanes y man cymdeithasol cymhleth hwn.  Mae ffotograffau mawr, myfyriol Tim Crooks yn rhesymoli’r amgylchedd anhrefnus hwn, ac yn ein gwahodd i fyfyrio ar oblygiadau trosiadol iechyd meddwl ac sefydliadoleiddio mewn synnwyr ehangach.

 

MARIE HELGESEN

Repose                  

Mae Helgesen yn gwahodd bobl i’w hystafell islawr i gysgu.  Gan adleisio arbrawf dyfodolaidd dychmygol o ffilm ffuglen wyddonol o’r 1960au, mae’r cyfranogwyr yn mynd i gysgu mewn dillad gwely gwyn a chynfasau gwely gwyn yn y man gwyngalch hwn.  Tynnir llun ohonynt cyn, yn ystod ac yn union wedi iddynt gysgu.  Mae gan Helgesen ddiddordeb mewn dal effaith drawsffurfiol cwsg.  Caiff amser ei childroi bron, wrth i’r gwrthrychau fynd i mewn yn gaeedig ac amheugar, a dod allan fel plant ac yn agored.

 

SCOTT MACKENZIE

Cerddodd merch heibio

Mae Mackenzie yn adleisio stori dylwyth teg dywyll o’n cyfnod ni, gan ddarlunio gefeilliaid mewn gofod mewnol yr ymddengys eu bod wedi’u cyfyngu iddo.  Mae amwysedd i’r lluniau, tensiwn gwaelodol rhwng gwendid ymddangosiadol y merched a’u presenoldeb bygythiol, gorfodol o fewn y gofod.  Wrth iddynt ddod allan o’r tywyllwch mae lled-awgrym y gall rhywbeth mwy sinistr fod yn digwydd y tu hwnt i’r ffrâm.

 

SAM MILLS-WILLIAMS                                         

Datguddio’r Ffasad

Mae lluniau teulu Mills-Williams yn gofyn cwestiynau am natur cynrychiolaeth wrth ein denu a’u hysblander darfodedig, ffurfiol.  Mae camgymeriad wrth brosesu ei negatifau wedi gadael achlysur cofiadwy yn anadnabyddadwy.  Fodd bynnag, mae methiant bwriad gwreiddiol y lluniau hyn wedi datgelu rhywbeth dwys wrth i ni chwilio am y cyfeiriad ffotograffig.  Mae cyflymiad y diwylliant digidol wedi gadael rôl recordio cemegol yn amhosibl, yn adleisio ymateb cynrychiolaeth ddarluniadol o fewn peintio ar ddechreuad ffotograffiaeth, ac yn eironig, mae’r delweddau yn cofio’r symud hanesyddol hwnnw tuag at fynegiadaeth haniaethol.

 

RYAN MOULE               

Absenoldeb mewn Presenoldeb

Mae gosodiadau Moule yn delweddu natur bêr-eneiniol ffotograffiaeth.  Yn archwilio technegau arferion cynnar ffotograffiaeth wrth gyfuno technoleg cyfryngau newydd, defnyddia ‘amser’ fel teclyn i archwilio gwahanol foddau’r hunan o fewn ei gynrychiolaeth ei hun.  Cyfuna’r prosiect hwn bortread ffotograffig cemegol o waith llaw a phortread fideo estynedig.  Cyn eistedd, dywedir wrth y gwrthrychau mai un llun cemegol yn unig a gymerir ohonynt (yna dinistrir y negatif).  Ni fydd y lluniau yn benodol a chânt eu dinistrio gan barhad eu portread symudol.  Delweddir y golled bosib hon o’r hunan yn eu mynegiant.

[1] Roland Barthes, Camera Lucida: Reflections on Photography, (Llundain: Vintage Books, 1993), t.93. “perhaps the most influential book ever published on the subject”, Geoffrey Batchen, Photography Degree Zero, (Caergrawnt, Massachusetts: Gwasg MIT, 2009)

 

<< Yn ôl tudalen