Yr Oriel

  • Header image

Fflwcs ac OsgoPaul Wearing

22 Ionawr - 12 Mawrth 2022

Mae gwneud Paul ar gerdded, drwy dirluniau, amser, cyflyrau emosiynol a chorfforol. Bydd ei waith yn gwyro, yn codi, yn ffrwydro ac yn ymdoddi. Mae’n atgofus ac yn gnawdol, yn ei wneuthuriad ac yn y ffordd o’i wylio. Bydd profiadau Paul yn hysbysu cnawdolrwydd ei waith a bydd ein hoffterau ni ein hunain yn ffurfio ymhellach yr hyn y byddwn yn ei brofi ohono. Fe symbylir gwneud Paul gan y ffordd y bydd yn teimlo o fod yn y dirwedd, bod yn rhan o’i amgylchoedd. Tra bo’i amgylchoedd yn edrych yn benodol ar foment arbennig: boed hynny stormus neu’n dawel, yn ddisglair neu’n synfyfyriol, ei synnwyr o o fod o fewn yr amgylchedd hwnnw sy’n sylfaenol i broses greadigol Paul.

Mae’r corff arbennig hwn o waith, yn dilyn hynt taith drwy flwyddyn o archwiliad. Mae’n datgelu rhywbeth o’r broses o dreulio amser yn cerdded ac yn nodi arfordir Ceredigion. Cafodd y gweithgaredd hwn effaith ddramatig ar ysbryd Paul, yn ei nerthu’n gorfforol ac yn greadigol. Bydd y profiad hanfodol hwn yn parhau i hidlo drwy ddarluniau a cherfluniau Paul i’r dyfodol. Am y tro, mae’r esblygiad o arwynebau eang, elyptaidd, peintwrus i ffurfiau gogwyddol, tywyll a chramenog, yn ddatblygiad clir. Mae llestri Paul wedi’u dyrchafu ers amser: nodwedd derfynol sy’n rhoi ymdeimlad o ddyrchafu neu gael ei godi i’w waith. Ychwanegwch at hyn onglau symudol ei waith mwyaf diweddar, y rheiny sy’n goleddu mewn parau, ac mae egni ei lestri ar fynd.

Ffotograffi: Dewi Tannatt Lloyd

<< Yn ôl tudalen