Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

The ShipwreckAled Simons

14 Ionawr - 29 Ionawr 2012

 

Arddangosfa a agorwyd gan Mission Gallery

I lansio’u rhaglen datblygiad proffesiynol newydd o THINKagain> mae Mission Gallery  wedi cynnig y gofod yn ei oriel i’r artist Aled Simons ar gyfer arddangosfa pythefnos o hyd i fynd y tu hwnt i ffiniau ei waith arferol a chreu darn o waith penodol ar gyfer safle.

 

Aled Simons | Llongddrylliad

Yn canolbwyntio ar y canfyddiad a phrofiad cyffredinol o’r gorffennol, presennol a’r dyfodol, mae ‘Llongddrylliad’ yn gasgliad o ddrysau tai oedd wedi eu taflu o’r neilltu. Mae’r nodweddion yma sy’n gyffredinol gyfarwydd yn creu coridorau a llwybrau, tystiolaeth o’u bywydau blaenorol mewn tirlun o wagle cyffredinol, hanes ac atgofion. Mae’r broses yn canolbwyntio ar y syniad o chwilio parhaus. Adennill ac ailffurfio. Amgylchynu’r hunan gyda chasgliadau a darnau o’r gorffennol i greu cyfanwaith newydd, pellgyrhaeddol. Goleuo breuddwydion angof, aduno hen ffrindiau a darogan y datguddiad.

 

Aled Simons | Amdano
Yn enillydd Gwobr Artist Cymreig y Flwyddyn mewn Cyfryngau Cymysg 2011 [Neuadd Dewi Sant, Caerdydd], mae Aled Simons, yn fwyaf enwog am ei ddefnydd o collage, printiau sgrin, cyfryngau digidol, perfformiadau cerddorol a hiwmor i archwilio’r uniad o’r anghyfarwydd a’r cyfarwydd. Mae canolbwyntio ar brofiadau, atgofion a’r gorffennol, yn arwain at ystyried dyfodol anhysbys a chysonion ymddangosiadol ar brydiau’n meithrin awyrgylch ôl-ddatguddiad. Gall y delweddu gael ei adnabod fel rhediad cychwynnol ‘Ten Thousand Yen’ o recordiau wedi eu sgrîn brintio; mae Aled Simons yn gyn fyfyriwr Prifysgol Fetropolitan Abertawe ac mae’n gweithio yn Abertawe ac yn rhan o ‘Supersaurus’,  gweithle Artistiaid a Stiwdio ar y cyd.

<< Yn ôl tudalen