Yr Oriel

  • Header image

Ephemeral CoastCuradur gan Celina Jeffery

14 Mehefin - 03 Awst 2014

Yn cynnwys Julia Davis (Awstralia), Stefhan Caddick (Cymru) a Fern Thomas (Cymru)

Curadur gan Celina Jeffery 

ephemeralcoast.com

Prosiect ymchwil curadurol rhyngwladol dros 4 mlynedd wedi ei arwain gan Celina Jeffery (Prifysgol Ottawa, Canada) yw Ephemeral Coast / Arfordir Undydd, i’w lawnsio yn Oriel Mission, Abertawe yn ystod Haf 2014. Mae’r arddangosfa gyfan yn edrych ar “archwilio diwylliannau, daearyddiaeth ac ecoleg arfordiroedd rhyngwladol newidiol ac i gynyddu ymwybyddiaeth y gwagleoedd brau ac arlesiol trwy ymarferion affeithiol creu celf.”

Bydd y cyntaf o’r prosiectau/arddangosfeydd yma yn cymryd lle mewn cydweithrediad ag Oriel Mission yn Abertawe ym Mehefin 2014, yr ail ym Mauritius a’r trydydd yn Alaska a’r ardal Arctig yng Ngorllewin Canada. Bydd partneri o ardaloedd arfordirol eraill hefyd yn cyfrannu. I ddiweddu bydd y prosiect ymchwil yn terfynu gydag arddangosfa ar raddfa fawr yn 2017/8, i gymryd lle mewn llefydd ar draws Bae Abertawe – gan gynnwys Caerfyrddin – gyda chyhoeddiad a thrafodaeth arddangosfa.

Dewiswyd yr artistiaid ym mhob un o’r llefydd yma i greu ac arddangos gwaith newydd yn ymateb i’r cynsail curadurol. Mewn tro, fe wahoddid academyddion  ac aelodau cymunedol o nifer o wahanol brifysgolion gan gynnwys Prifysgol Ottawa, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Wolverhampton, i gymryd rhan yn rhaglennu o amgylch y sioe. Byddant hwy yn parhau i greu'r cysylltiadau yma, i gefnogi’r ddeialog i ymwneud â’r themâu a gynhyrchid gan yr arddangosfeydd.

Nod yr arddangosfa yw cydweithrediad, deialog a phartneriaeth i ddatblygu arddangosfeydd a thrafodaethau ynghyd a chynyddu gwaith allanol yr arddangosfa i gynulleidfaoedd lledaenach ag amrywiol. Bydd gwefan yn cynnwys yr holl weithfeydd celf a thrafodaethau yr arddangosfa.

Bydd yr arddangosfa yn annog cyfranogiad o gynulleidfaoedd lleol a rhai rhyngwladol drwy’r prif wefan.

Delwedd gyda charedigrwydd Julia Davis

Celina Jeffery, Ph.D, Athro Hanes a Damcaniaeth Celf ym Mhrifysgol Ottawa. Prosiectau cynt yn cynnwys Preternatural (2011-12) daeth ag wyth artist rhyngwladol at ei gilydd i ymchwilio’r gwagleoedd lle mae’r naturiol a’r annaturiol yn cyfuno gan gyflwyno pump arddangosfa mewn llefydd ar draws Ottawa, Canada. Arddangosfeydd eraill: Lines of Flight, Coleg Hunter, NYC, 2007; Afterglow (yn cynnwys Ghada Amer, Alfredo Jaar a Bill Viola, ag eraill) yn Lacoste, Ffrainc, 2007; Wangechi Mutu: The Cinderella Curse yn Oriel ACA, Georgia, USA, 2007; a’r sioe grwp rhyngwladol, Hold On, cyd-guradwyd ag Avantika Bawa yn Oriel Maskara, Mumbai, 2011. Cyd-golygydd gyda Gregory Minissale o Global and Local Art Histories (2007) a chyd-ffurfiwr a golygydd Drain Magazine: A Journal of Contemporary Art and Culture. Bydd ei llyfr newydd, The Artist as Curator, yn cael ei gyhoeddi gan Intellect.

<< Yn ôl tudalen