Yr Oriel

  • Header image

Dadorchuddio GwehydduSue Hiley Harris

22 Mawrth - 17 Mai 2025

Hoffai Oriel Mission eich gwahodd i agoriad arddangosfa Dadorchuddio Gwehyddu gan Sue Hiley Harris, i agor an 2yp gyda Sgwrs Artist am 3yp. 

Agoriad Arddangosfa: Dadorchuddio Gwehyddu

Dydd Sadwrn 22 Mawrth 2025

Agoriad: 2 PM

Sgwrs Artist: 3 PM: Bydd y sgwrs ddarluniadol hon gan Sue Hiley Harris yn edrych ar y gwaith a arweiniodd at, a'r gwaith sydd wedi’i gynnwys yn ei harddangosfa, sef 'Weaving Unearthed'.  Bydd hi hefyd yn trafod sut mae ennill gwobr Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dylanwadu ar ei gwaith.

Poster Dadorchuddio Gwehyddu

Mae Dadorchuddio Gwehyddu, arddangosfa o waith gan y cerflunydd-wehydd Sue Hiley Harris, yn datgelu ei diddordeb mewn strwythurau arbrofol wedi’u gwehyddu a defnyddiau wedi’u tynnu o’r hyn sy’n cyfateb i systemau gwreiddiau organig. Wrth ddefnyddio gwifrau arian a chopr, edafedd papur a lluniadau haniaethol o ddefnydd organig, mae Sue yn pwysleisio gwerth amgylcheddol yr hyn sy’n gudd o dan y ddaear.

Mae Sue Hiley Harris yn cael ei hadnabod am y cerfluniau haniaethol y mae hi’n eu gwehyddu â llaw ers diwedd y 90au. Diffinnir celf o'r fath fel creadigaeth haniaethol mewn dau neu dri dimensiwn, ac yn aml mae deunydd, strwythur a ffurf y darn yn ddibynnol iawn ar ei gilydd.  Yn gyffredinol, mae cerfluniau sydd wedi eu gwehyddu yn deillio o siapiau geometrig, ond mae'r ucheldiroedd ger ei chartref yng Nghymru a’r Alban wedi dylanwadu’n fawr arni hefyd.  

Yn 2013, enillodd Sue wobr Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru er mwyn ‘edrych yn fanylach ar y posibilrwydd o wehyddu cerflun o gorff’. Fel rhan o’r broses hon, fe ailgydiodd Sue yn y grefft o arlunio ar ôl seibiant hir, ac fe sbardunodd hyn ynddi’r awydd i arlunio’r dirwedd o’i hamgylch. Fe wnaeth hi ddysgu sgiliau a thechnegau corfannu arian hefyd.  O ganlyniad i’r ffaith ei bod hi wedi ailgydio mewn arlunio, mae ei gwaith gwehyddu diweddaraf yn arddangos egni newydd a rhyddid.

Mae gan Sue Hiley Harris radd mewn celfyddyd gain o Goleg Celf Queensland ym Mrisbane, Awstralia, sef ei thref enedigol.  Ers symud i Brydain, mae hi wedi astudio'r grefft o wehyddu â llaw ym Mradford, yn ogystal â gwyddoniaeth gyda’r Brifysgol Agored. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig, ac wedi gweithio ar gasgliadau cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr, Ffrainc, a'r Eidal. Mae Sue yn aelod o'r ‘Grŵp Cymreig’, ac o ‘56 Group Wales’, ac mae hi hefyd yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Theo Moorman, mudiad sy’n cefnogi pobl sy’n gwehyddu â llaw.

 Sue Hiley Harris, Weaving Unearthed.

Sue Hiley Harris, Weaving Unearthed.

Sue Hiley Harris, Weaving Unearthed.

Sue Hiley Harris, Weaving Unearthed.

Image 1: Unearthed III detail, photo credit Dewi Tannatt Lloyd.

 

Ruthin Craft Centre logostrip

<< Yn ôl tudalen