Yr Oriel

  • Header image

Llwybrau | PathwaysCyn-fyfyrwyr Criw Celf

25 Mehefin - 09 Gorffennaf 2022

Arddangosfa yw hon i ddathlu’r artistiaid sydd wedi cwblhau ein rhaglen addysg Criw Celf dros y blynyddoedd diwethaf. Gwahoddwyd nifer cyfyngedig o artistiaid a gwneuthurwyr i arddangos eu hymarfer presennol. Bydd yr arddangosfa yma nid yn unig yn dathlu’r ddawn greadigol yng Nghymru ar hyn o bryd, ond lle gall hwn arwain yn y dyfodol.

Delwedd: Cerdyn post Traeth Abertawe gan Katie Baugh.

Safiyyah Altaf 

Ar hyn o bryd mae Safiyyah yn astudio Gradd mewn Tecstilau Patrymau Arwyneb yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae ei gwaith yn dechrau drwy ymchwil reddfol, lle mae'n dymuno dod o hyd i'r stori o fewn yr amgylchedd o'i chwmpas – gan chwilio am atgofion cudd yn y byd naturiol, amgueddfeydd a strydoedd. Mae'n ein hannog i gydnabod yr elfennau egsentrig yn ein digwyddiadau bob dydd. Mae'r detholiad hwn wedi'i ysbrydoli gan ardal Abertawe - ei siopau, adeiladau, ac yn arbennig casgliadau porslen Japaneaidd a Tsieineaidd o fewn y GlynnVivian. 

Katie Baugh 

Mae Katie yn fyfyrwraig sy'n astudio Darlunio ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar hyn o bryd. Mae hi'n byw ym Mhontardawe yng NghwmTawe, ond i lawr y cwm mae ei hoff le,sef ar lan y môr yn Abertawe. Mae'r darluniau

hyn yn ddathliad o hwyl ac antur syml ar lan y môr. Mae'r darluniau'n gyfuniad o dechnegau lluniadu traddodiadol a digidol. Fe’u gwneir yn gyntaf gyda phin tenau ar bapur, cyn eu sganio a'u lliwio'n ddigidol.Yng ngwaith Katie mae pwyslais cryf ar fenywod a'r byd naturiol, yn enwedig tirweddau Cymru. Fel y gwelir yn llawer o'i gwaith, mae hi'n ymddangos yn yr holl ddarluniau. Mae'n credu mai’r rheswm am hyn yw oherwydd bod ei holl waith celf yn deillio o'r hyn y mae'n ei wybod ac yn ei garu. Mae Katie yn teimlo bod llawer o harddwch i'w gael mewn bywyd bob dydd, ac mae'n gobeithio taflu goleuni ar eiliadau sydd fel arall yn mynd heibio heb i neb sylwi arnynt. 

Ewan Coombs 

Mae Ewan Coombs yn artist amlddisgyblaethol sydd ar hyn o bryd yn astudio Celfyddyd Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.Yn ystod ei broses arbrofol mae’n gweithio gyda llawer o gyfryngau a deunyddiau anghonfensiynol, o ffynonellau diwydiannol a naturiol.Yn ei waith  diweddar mae wedi bod yn archwilio sut rydym yn gweld golau, a'i effaith ar sut rydym yn deall y gofod ffisegol o'n cwmpas. Mae'n aml yn creu darnau safle-benodol sy'n archwilio'r syniad o rywbeth yn cuddio yng ngolwg pawb gan gwestiynu syniadau rhagdybiedig. Mae ei waith wedi'i ysbrydoli gan ymarferwyr ffeministaidd, cwiar a phobl liw. 

Isabella Coombs

Darlunydd yw Izzy sydd wedi'i lleoli yn Ne Cymru. Mae hi'n astudio ar gyfer ei BA mewn Darlunio ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ochr yn ochr â dilyn Diploma mewn Iechyd Meddwl. Mae Izzy hefyd yn Diwtor Allgymorth i'r Brifysgol, gan gyflwyno gweithdai mewn ysgolion lleol. 

Mae gwaith Izzy yn deillio o’i hoffter o natur a phobl, ac mae’n ymateb uniongyrchol i'r amgylchedd o'i chwmpas. O fewn ei gwaith mae themâu anthropomorffaeth anifeiliaid,sy'n ei hysgogi i ddatblygu straeon byrion y mae'n gobeithio eu cyhoeddi yn y dyfodol. Ochr yn ochr â'i gwaith, mae Izzy yn archwilio damcaniaethau beirniadol sy'n ymwneud â lluniadu naratif o ddamcaniaethau seicoleg. 

"Rwyf am i bobl deimlo rhywbeth pan fyddan nhw’n edrych ar fy ngwaith; chwerthin, cwestiynu a dehongli" 

Flora Luckman

Ganed Flora yn Abertawe ac mae’r arlunydd ar fin dechrau trydedd flwyddyn ei gradd Darlunio ym Mhrifysgol Caeredin. Cwblhaodd gwrs sylfaen yn Llwyn y Bryn, Coleg Gŵyr yn Abertawe cyn dechrau ar ei gradd.Yn ystod ei chwrs gradd, mae wedi gweithio gyda gwaith naratif yn enwedig ar ffurf llyfr. Cymerodd flwyddyn allan ac yn ystod y flwyddyn honno dysgodd am lyfrau artistiaid a rhwymo llyfrau. Mae hyn wedi dylanwadu'n drwm ar ei gwaith. Mae hi'n mwynhau teimlad llyfrau wedi'u rhwymo â llaw, a'r sylw sy’n bosibl ei roi i fanylion. Bwriad Flora yw bod ei gwaith yn archwilio pynciau syml mewn ffordd ysgafn, ac yn ddiweddar mae wedi datblygu corff o waith yn seiliedig ar wyliau yng Nghymru – gan ymdrin â symlrwydd diwrnod allan yng nghefn gwlad Cymru. Mae'r gwaith a arddangosir yn ymwneud â Rosebush, tref lle’r oedd chwareli llechi gynt yn Sir Benfro, Gorllewin Cymru y mae'n ymweld â hi bob blwyddyn i fynd i nofio. Datblygodd y fideo yn gyntaf a'r paentiadau wedyn, gan obeithio cyfleu heddwch a llonyddwch Rosebush ar draws ei gwaith.

Joseff Rowlands 

Mae Joseff yn astudio Pensaernïaeth ynYsgol Bensaernïaeth UCL Bartlett yn Llundain. Roedd yn rhan o garfan Codi'r Bar yn 2019, ac wedi hynny dyfarnwyd Gwobr Jane Phillips Preswyliad Stiwdio Codi'r Bar. 

Mae gwaith Pensaernïol presennol Joseff yn ymchwilio i wahanol ffyrdd o weld. Mae'r archwiliadau hyn wedi cynnwys lluniadu corfforol a digidol a gwneud modelau, yn ogystal â defnyddio meddalwedd golygu. Dylanwadodd thema flynyddol yrYsgol,sef Iechyd Meddwl a Lles ar ei ddefnydd o ddeunyddiau, gan ddefnyddio deunyddiau diwydiannol trwm a deunyddiau meddal, ysgafn a lled dryloyw i gynrychioli difrifoldeb ac ysgafnder iechyd meddwl rhywun; gan ysgogi'r drafodaeth ynghylch arbed einioes. Mae'n mwynhau gweithio gyda chyfryngau cymysg, ac mae'r defnydd o ffotograffiaeth a ffilm yn ganolog yn ei waith - gan roi cyfle iddo gyfuno ystod amrywiol o elfennau i greu profiad yr ymgollir ynddo. 

Rebeca Serban 

Mae Rebeca yn fyfyrwraig Celfyddyd Gain ail flwyddyn,sy'n astudio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Mae ei gwaith yn cynnwys gweithio gyda chyfryngau cymysg megis: pasteli olew, clai, ffotograffiaeth, paent a brodwaith. Ar hyn o bryd mae ei gwaith yn archwilio themâu sy'n ymwneud â hunaniaeth – a’i hysbrydoliaeth yn deillio o freuddwydion ac atgofion, ac yn aml yn cynnwys elfennau swrrealaidd. Mae natur haniaethol ei gwaith yn rhoi'r rhyddid iddi bortreadu meddyliau isymwybodol a chysylltu'n ddilys â phob mynegiant. Mae ei gwaith wedi'i ysbrydoli gan weithiau Frida Kahlo, Salvador Dali, Claude Cahun a Helen Chadwick. 

Tomos Sparnon 

Mae gwaith Tomos yn archwilio'r hyn ydyw i fod yn ddynol.Trwy wahanol gyfryngau gan gynnwys paentio, arlunio a cherfluniaeth, mae'n archwilio perthynas dyn â'i gyd-ddyn, gyda'r byd, gyda gwrthrychau, gydag ef ei hun a gyda Duw. Ei nod yw dangos y gwrthdaro rhwng y gweladwy a'r anweledig, rhwng realiti a'r hyn nad yw'n real.

Owain Sparnon 

Mae Owain yn creu gweithiau sy'n ymateb i bethau y mae'n dod ar eu traws yn ddyddiol. Gall y rhain gynnwys ffotograffau, tirweddau, goleuadau sy’n adlewyrchu,seiniau a siapiau a ffurfiau o wrthrychau bob dydd. Mae'n cael ei gyffroi gan y syniad o haenu, dadfeilio, cydblethu, a datgysylltu delwedd, a'r ffin rhwng paentiad a cherflun. Mae ei baentiadau'n datgelu atgofion, meddyliau, cyfrinachau a phrofiadau o'i isymwybod drwy liw, darnau o ddeunydd, gwead a'r anhysbys. 

Ar hyn o bryd mae'n gweithio yng Ngholeg Celf Abertawe ar ôl ennill Gwobr Cronfa Lles Rhaglen Cymrodoriaeth Newid Cam. 

Serena Williams-Dulley 

Mae Serena yn fyfyrwraig darlunio blwyddyn gyntaf yn UAL Camberwell yn Ne Llundain. Mae hi'n gweithio'n ddigidol yn bennaf neu gyda phensil ac inc ar ei chwrs, ac mae wedi bod yn creu llyfryn gweithgareddau i blant am fywyd a darganfyddiadau Mary Anning dros y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, yn ei gwaith personol mae'n mwynhau archwilio collage, montage ffotograffig a phaentio. Mae'r darn sy'n cael ei arddangos yn baentiad o collage am y berthynas rhwng llawenydd,rhyddid, grym a deallusrwydd wrth greu. Mae hi'n hoffi defnyddio cymysgedd o wahanol gyfryngau ym mhob gwaith celf mae hi'n ei wneud. Roedd y darn a oedd yn cael ei arddangos wedi'i baentio â phaent wal acrylig a matte - mae'r arddull wedi'i helpu i gyflawni'r siapiau beiddgar a'r lliwiau gwastad y mae'n hoffi eu defnyddio wrth ystyried cyfansoddiad. 

Gemma Yeomans 

Mae Gemma yn fyfyrwraig ar ei thrydedd flwyddyn yng Ngholeg Celf Abertawe ac mae ar fin graddio gyda BA mewn Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Daw'r tecstilau hyn o'i chasgliad ar gyfer ei gradd "Tirweddau a Adeiladwyd â Brethyn",sy'n archwilio'r teimlad o 'hud' sy'n cael ei deimlo drwy gyffwrdd a theimlo arwynebau. Mae'r hud hwn yn cael ei greu drwy’r cyffyrddiad hwn, a'r eiliad honno pan fydd gwrthrych yn cael ei gyffwrdd a'r unigolyn yn cael ei gyffwrdd gan y gwrthrych - yn drosiadol ac yn llythrennol. Mae “Tirweddau a Adeiladwyd â Brethyn” wedi’u hysbrydoli gan eiliadau hapus wrth i donnau daro dan awyr glir. Darlunnir tirweddau hyfryd drwy ddeunyddiau sy'n wledd i’r llygad a'r llaw. 

 

<< Yn ôl tudalen