Yr Oriel
Criw Celf y GorllewinCodi'r Bar, Portffolio, Criw Celf Cynradd ac Uwchradd
05 Medi - 26 Medi 2020
Mae Oriel Mission yn arddangos cynnyrch cyffrous eu Rhaglen Addysg nodedig, Criw Celf y Gorllewin. Mae myfyrwyr Mwy Abl a Thalentog 9-18 oed ledled de Cymru wedi ymgymryd â dosbarthiadau meistr mewn Celf a Dylunio yn Coleg Celf Abertawe (PCDDS), Coleg Gŵyr a Oriel Mission. Am bythefnos, mewn gofod proffesiynol, byddant yn arddangos y gwaith y maent wedi’i gynhyrchu.
Rhoddwyd y cyfle i’r myfyrwyr i feistroli technegau newydd ac fe'u hanogwyd i edrych ar wahanol feysydd arbenigol i hybu eu brwdfrydedd am yrfa yn y celfyddydau. Daw canlyniadau pob gweithdy at ei gilydd yn yr arddangosfa yma sy’n cloi’r prosiect, gan ddangos taith a datblygiad creadigol y bobl ifanc yma.