Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Codi’r BarAS & A Level Students in Carmarthen, Neath & Port Talbot

07 Medi - 22 Medi 2013

Mae’n bleser gan Oriel Mission arddangos gwaith o raglen Codi’r Bar blwyddyn yma;

rhaglen addysgiadol celf yw Codi'r Bar sydd yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i ddisgyblion dawnus a thalentog Celf a Dylunio Lefel AS ac A, i ddatblygu eu ymarfer creadigol a'u ymwybyddiaeth o gelf gweledol a chymhwysol. Cafwyd chwech Dosbarth Arbenigol yn ystod y flwyddyn academaidd yn Metropolitan Abertawe gan ddefnyddio eu offer arbenigol, gan gynnwys Arlunio, Dylunio Ffasiwn, Animeiddio, Ffotograffiaeth, ymarfer Cyd-destunol Celf a Gwydr. Darapara'r arddangosfa arolwg o'r holl gyflawnwyd gan y ddau grwp dros y naw mis diwethaf, gan gyflwyno safon uchel o waith ac ymrwymiad pob unigolyn. Cynnigodd y prosiect gyfle i gyflawnogwyr ymweld ag orielau yn Ne Cymru a Bryste, gan gynnwys G39, Oriel Myrddin a Spike Island. Gwahoddwyd cyflanogwyr hefyd i sesiwn Adnoddau a Gyrfaoedd gydag artistiaid parchedig, darlithwyr a churadwyr, a diwrnod astudiadol yn lle addysg ac adnoddau Oriel Mission yn ystod y Pasg.   

Prosiect partneriaethol yw Codi’r Bar rhwng Oriel Mission, Metropolitan Abertawe, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot, fe’i ddechreuwyd yn wreiddiol fel rhaglen beilot yng Nghanolfan Grefft Rhuthun yn Sir Ddinbych. Dechreuir Dosbarthiadau Arbenigol Codi’r Bar 2013/2014 gyda disgyblion newydd Caerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot ar ddiwedd mis Medi.

<< Yn ôl tudalen