Yr Oriel

  • Header image

CIVICCuradur gan Bella Kerr

12 Ebrill - 01 Mehefin 2014

Owen Griffiths + Andrew Nixon (Powell Dobson)

Anna Barratt + Penseiri Huw Griffiths

Jason&Becky + Niall Maxwell

Catriona Ryan + Lindsay Halton

 

facebook.com/collaborativeconversations

civic2014.wordpress.com

 

Ymholiad o’r ddinas yw CIVIC, gwahoddiad ydyw i gynnig ymyrraeth pensaernïol ac arall ar nifer o leoliadau ar draws Abertawe; proses o arsylwi a  mentro gan greu lle dychmygol, crwydrol a chreadigol o fewn yr oriel. Agorir yr arddangosfa ar ddydd Sadwrn 12 Ebrill am 3yp yn Oriel Mission gan y Cynghorydd David Phillips, Arweinydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe ac mae’n pahau hyd at Fehefin 1af.

Fel bydd y ddinas yn cael ei holi? Gofynnir i ymarferwyr pensaernïol, gwneuthurwyr, ysgrifenwyr ac artistiaid gynhyrchu neu gynnig ymatebion i leoliad, gan bartneri pensaer gydag ymarferwr arall i bob lleoliad (efallai bydd y term yn cael ei ehangu i ymgorffori’r syniad o ‘rhyng-wagleoedd’ neu dehongliadau eraill).

Cyn yr arddangosfa gwnaeth y penseiri, artistiaid, ysgrifenwyr, academwyr a gwneuthurwyr ‘gerdded a sgyrsio’r’ ddinas a dechreuant ddynesu’r cwestiynau a ymddengys. Bydd pob pâr yn meddiannu gwagle’r oriel am wythnos gan weithredu casgliad eu ymchwil, syniadau a darnau celf.

Bydd yr arddangosfa yn cyfuno cyfrannogwyr gydag ymwybyddiaeth dwfn o’r ddinas, rhai sydd wedi byw a gweithio yn Abertawe dros amser, gydag eraill bydd yn cyflwyno meddwl a syniadau o lefydd eraill. Bydd yr arddangosfa yn cydnabod y sgiliau eisioes yn y ddinas ac yn creu fforwm am drafodaeth rhwng unigolion proffesiynol a rhai sydd â gwybodaeth o tu hwnt. Gan gynnwys rhaglen o ddigwyddiadau, gweithgareddau a gweithdai bydd yn cymryd lle yn yr oriel ac oddi ar y safle, gwahoddiad ydyw i gyfrannu.

<< Yn ôl tudalen