Yr Oriel

  • Header image

Cekca Het: Trans PanicRhiannon Lowe

16 Gorffennaf - 28 Awst 2021

I fwcio eich ymweld cliciwch yma os gwelwch yn dda yma

---

Perfformwraig a gwneuthurydd yw Rhiannon Lowe (hi/hithau, wedi’i geni yn swydd Efrog, yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd), sydd yn aml yn defnyddio gofodau domestig, adeiledig ac addurnol i lwyfannu perfformiadau a hongian ei gwaith. Mae hefyd yn awdur, wedi curadu a threfnu arddangosfeydd ac yn perfformio mewn digwyddiadau sain. Astudiodd yng Nghaerhirfryn, Birmingham a Chaerlŷr.

Ar hyn o bryd, mae Rhiannon ar raglen cymrodoriaeth Freelands i artistiaid yn g39, Caerdydd. Ynghynt eleni, derbyniodd grant gan CCC i wneud ymchwil ar gyfer ei phrosiect Cekca Het, persona perfformiadol a rhaglen o waith newydd, gan anelu at arddangosfa yn Mission, Abertawe.

Mae Cekca Het yn edrych ar yr hunaniaeth a’r gymuned draws, a brwydr a phleser  (seicolegol a chorfforol) Rhiannon wrth ymdrin â’i rhywedd a’i rhywioldeb. Mae’r prosiect yn troi o gwmpas arddangosfa a digwyddiadau ategol sy’n ystyried themâu traws-benodol ehangach gan gynnwys eithrio, sylw gorgynhyrfus gan y cyfryngau, cam-drin ac annhegwch.

Bydd gosodwaith yr arddangosfa’n tynnu ar ymchwil Rhiannon i rôl berfformiadol rhywedd ac olrhain ei gorffennol er mwyn darganfod cliwiau i ble mae hi’n ei chael hi hun erbyn hyn, gan ddefnyddio cymysgedd o sain, gosodwaith amlgyfrwng, testun, tecstiliau, arlunio, print ac effemera.

Mae Cekca Het yn bwrw golau hegr ar obeithion chwâl Rhiannon am berffeithrwydd trawsnewid, gan ei gadael i ymdrybaeddu ac wylofain yng nghanol ei harbrofion mewn cerddoriaeth swnllyd a’i chariad tuag ati ac adfeilion ei gyrfa mewn band y bu unwaith yn ei dychmygu.

---

I ystyried cyn ymweld â'r arddangosfa:

  • Mae’r arddangosfa yma yn cynnwys goleuadau a delweddau fflachiol o wahanol gyfeiriadau ac uchder.

  • Cadwch i’r llwybrau i osgoi tripio.

  • Rydym ni’n gofyn i chi beidio cyffwrdd y gwifrau na’r offer, mae rhai o’r offer yn boeth.

  • Mae yna wrthrychau bregus a toradwy, peidiwch â chyffwrdd.

I weld asesiad risg yr arddangosfa, cliciwch yma

 

 

Delwedd: Trans Panic logo marchnata (fersiwn), 2020

Gwaith gan Cekca Het/Rhiannon Lowe

 

cekcahet.rocks 

rhiannonlowe.co.uk/ 

@cekcahet 

 

Trans panic zine cover promo print, includes two black and white vintage clothing images of ladies wearing pyjamas, and an image of artist wearing studded glassescekca het promo. An image of merchandise behind glass and reflected in mirror at back of cabinetcekca het promo poster, a part of the artist's face can be seen looking into camera with a man in the background holding a 'burn in hell' placard

<< Yn ôl tudalen