Yr Oriel

  • Header image

AwayJulie Arkell

14 Chwefror - 12 Ebrill 2015

Mae hanes arddangosfa Julie Arkell – Ymaith sy’n dilyn Gartref gynhaliwyd ddeng mlynedd yn ôl – yn un o drefn, cyfundrefn a dosbarthiad. Nid felly bydd yn ymddangos, wrth gwrs. Bydd ei gwaith yn edrych mor hudol a bywiog ag erioed. Ond y tu ôl i’r cyfan roedd proses o wneud hunanosodedig fu’n fodd i’w chynnal trwy gyfnod galaru marwolaeth ei mham (ddigwyddodd yn niwedd 2011) ac amlygwyd yn y profiadau brofodd Arkell yn ei galar, rhai real a diriaethol.

Ar gyfer crynswth yr arddangosfa hon gwnaeth Arkell 100 o ‘greaduriaid’, un yr wythnos. O’r creadur cyntaf, peth bach swil, i’r creadur olaf – un fwy cadarn ac ystyfnig yn camu i ffwrdd – maent yn gwneud casgliad naratif gwych. Roedd Arkell yn gwybod y byddai hi’n gwneud 100 o’r cychwyn. Mae ganddi rywbeth am rifau ac roedd 100 yn ymddangos yn berffaith.

<< Yn ôl tudalen