Yr Oriel

  • Header image

Artist yn y BydGwobr Jane Phillips

08 Hydref - 13 Tachwedd 2021

Agoriad Arddangosfa: 5 - 7yh, nos Wener 08 Hydref 2021, gyda gair o groeso am 6yh*


Artistiaid:

Thibault Brunet | Jason & Becky | Helen Dennis | Laura Edmunds | Harry Gammer-Flitcroft | Ryan L. Moule | Brett Swenson

Y Gwneuthurwr: Elin Hughes

Y Sgrin: Laurentina Miksys

Y Wal: Owain Sparnon

 


Cafodd y wobr ei greu yn 2011 er cof am Jane Phillips (1957 – 2011), cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission. Mae’r wobr yn gymynrodd i angerdd Jane am feithrin talent,  yn gweithio gydag unigolion ar bob lefel - gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ag artistiaid ar ddechrau eu taith. Cyfleoedd sydd wedi eu cryfhau trwy gydweithrediad agos gyda thîm Oriel Mission, Coleg Celf Abertawe, PCYDDS ag oriel elysium.

Dan arweiniad Amanda Roderick, cyfarwyddwr cynt Oriel Mission, daeth y wobr yn un rhyngwladol a gyda chymorth pellach y cyfarwyddwyr dilynol Matthew Otten a Ceri Jones, a bwrdd brwdfrydig, mae’r wobr yn datblygu a newid. 

Arddangosfa yw hon sydd yn dathlu llwyddiant a champau deng mlynedd o’r wobr. Er mai grŵp artistiaid bach iawn sydd yma, maent oll wedi profi’r wobr mewn ffyrdd gwahanol -  o gyfnodau preswyl, stiwdio, sioe graddedigion, prosiectau curadurol neu arddangosfeydd.

 

Am fwy o wybodaeth am Gwobr Jane Phillips, cliciwch yma 

 

Delwedd: sleep noises, 2020. Fideo, 30 min. Cydweithrediad rhwng Brett Swenson a Kirsten Ihns


 

Gyda diolch diffuant i Goleg Celf Abertawe (PCDDS) am ei nawdd hael i’r catalog sy’n cyd-fynd ag arddangosfa ddengmlwyddiant Artist yn y Byd. Mae Gwobr Jane Phillips ac Oriel Mission yn gwerthfawrogi cefnogaeth barhaus Coleg Celf Abertawe gan edrych ymlaen at gydweithredu eto yn y dyfodol.


Logo Coleg Celf Abertawe, PCDDS

<< Yn ôl tudalen