Yr Oriel
All Tied Upan exhibition of scarves
03 Ebrill - 15 Mai 2010
Mae’n bleser gan Mission Gallery gynnal Arddangosfa gan Ganolfan Grefftau Ruthun, wedi’i churadu gan Gregory Parsons.
Gall sgarffiau eu hunain fod yn gelfyddyd, wedi’u cynhyrchu fel ag y maent mewn amrywiaeth o ddeunyddiau, dyluniadau a dulliau adeiladwaith. Mae nifer ohonom yn eu gwisgo, rhai ag ymwybyddiaeth graff o sut y gallant ychwanegu rhywbeth arbennig at wisg, ac eraill yn eu gwisgo fel cyfwisg ymarferol i’w cadw’n dwym.
Daw Yn Gwlwm i Gyd â grŵp o wneuthurwyr ynghyd sy’n rhagori ar grefft gwehyddu: rhai o’r dehonglwyr cyfoes mwyaf cyffrous a dawnus, mewn traddodiad sy’n pontio canrifoedd. Gan weithio gydag amrywiaeth eang o ddeunyddiau, gan gynnwys gwlân, sidan, lliain a chotwm, maent oll yn cyfrannu eu sgiliau unigryw eu hunain wrth ddylunio a chreu sgarffiau sy’n cynnig rhywbeth arbennig - boed yn strwythurau arloesol neu’n gyfuniadau annisgwyl o ddeunyddiau.
Dyma arddangosfa gyffrous a chynhyrfiol a fydd yn hysbysu ac yn ymhyfrydu.
Bydd yn cynnwys gwaith gan yr artistiaid canlynol;
AKAARO – GAURAV GUPTA
SARAH BEADSMOORE
DÖRTE BEHN
PREETI GILANI
MICA HIROSAWA
KESKUSTA
LETO & ARIADNE
MAKEBA LEWIS
ALPA MISTRY
TIM PARRY-WILLIAMS
ÅSA PÄRSON
MARGO SELBY
TARAN TAARAN – BONITA AHUJA
WALLACE SEWELL