Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

A Million Years of NothingNick Martin

11 Gorffennaf - 15 Awst 2009

Bu Nick Martin yn byw ac yn gweithio yn Llundain am rhai blynyddoedd cyn symud i Abertawe ym 1988.  Er y 1980au hwyr, peintio bu’r mwyafrif o’i waith, ond mae e hefyd wedi cynnwys darlunio, collage, print ac adeiladwaith cyfrwng cymysg.  Mae llawer o’r gwaith yn dal i ddefnyddio bywyd llonydd neu bynciau hanes naturiol, ond yn aml golyga hyn chwarae â chonfensiynau, ieithoedd a phrosesau cynrychiolaeth.  Bydd gweithiau o ganol y 1980au yn cael eu harddangos, peintiadau o 2000 a chyfres ddiweddar o wrthrychau wedi’u mowntio ar wal.

 

Tua 1978, wedi’i annog gan ei ddiddordeb gydol oes mewn anifeiliaid, sylweddolodd Martin y gellir defnyddio iaith weledol amgueddfeydd sŵoleg a llyfrau hanes naturiol mewn celf.  Mae’r amgueddfeydd a’r llyfrau hyn yn cynnwys cyfuniadau hynod o arwyddion, symbolau, delweddau, ffurfiau a defnyddiau, a all gael eu hanwybyddu oherwydd bod y sylw’n tueddu i ganolbwyntio’n fwy ar yr wybodaeth sy’n cael ei chyfathrebu yn hytrach na’r iaith.  Pan fo’r neges addysgiadol yn absennol, daw’r cyfrwng yn fwy gweledol.  Dechreuodd Martin wneud defnydd o ‘r iaith hon a gymerwyd o’r tu allan i gelf, a darganfu fod hanes celf yn dod yn llai o faich.  Doedd beth i’w wneud na sut i weithio ddim yn broblem iddo bellach. 

 

Galluogodd yr iaith hon i Martin ddefnyddio hiwmor ac abswrdiaeth, oherwydd bod ganddo ymddangosiad o wirionedd ar yr wyneb.  Gellir cael gwybodaeth fel bod yn wir neu’n ffeithiol yn rhannol oherwydd arddull ei chyflwyniad; er enghraifft, mae gan wyddoniaeth fwy o awdurdod na hysbysebu.  Ychydig iawn o’r gweithiau hyn a gwblhawyd yn hawdd; roeddent yn ganlyniad o ganolbwyntio’n bryderus ar osgoi dehongliadau, cydgysylltiadau a goblygiadau digroeso.  Mae’r absenoldeb ymddangosiadol o ystyr deongladwy yng ngwaith Martin yn gweithredu fel trosiad o anghywasgedd y byd o’n cwmpas.

 

Amlyga’r gwaith hwyrach yn yr arddangosfa hon rai o’r un agweddau a diddordebau, ond efallai’n llai uniongyrchol.  Er mai peintio yw llawer o waith Martin, dy e erioed wedi gweld ei hun fel peintiwr.  Ysgrifenna; “Rwy’n meddwl am beintio fel gwrthrychau gwastad.  Mae peintiad yn aml yn amlwg ei fod yn arwyneb wedi’i liwio a/neu rith megis ffenest, ond mae e hefyd yn wrthrych maint a siâp penodol, wedi’i leoli ar wal mewn safle penodol, wedi’i wneud â defnyddiau amrywiol, â thrydydd dimensiwn.  I raddau amrywiol, mae llawer o’m gwaith wedi ceisio rhoi ffurf gadarn i ddau arsylwad bob dydd.  Yn gyntaf, rwyf wedi fy synnu gan ryfeddod portread gweledol, ac yn benodol gan y ffordd y gellir gweld paent fel sylwedd corfforol, ardal o liw, neu’n ddelwedd o rywbeth arall.  Yn ail, ni fyddaf yn gallu derbyn helaethrwydd ac anhreiddiadwyedd mud pethau materol yn llwyr.  Mae gwrthrychau anghyfarwydd i’w gweld  bob amser, tra bod gwrthrychau cyfarwydd yn cadw’u dirgelwch a’u harddwch.”

<< Yn ôl tudalen