Yr Oriel

  • Header image

40 mlynedd o wydr – golwg ar eu gwaithBaldwin & Guggisberg

21 Mai - 08 Mehefin 2022

Mae Oriel Mission yn falch o groesawu corff bach o waith gan Baldwin a Guggisberg am dair wythnos yn unig. Mae Philip a Monica ymhlith yr artistiaid rhyngwladol blaenllaw sy’n gweithio gyda gwydr. Maent yn enwog am eu harddull unigryw o gyfuno technegau troshaenu o Sweden â thechnegau torri o’r Eidal, a elwir yn battuto, proses sy’n cynnwys torri drwy haenau o liw i sicrhau gwead a phatrwm. 

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gwelwyd newid yn arferion Philip a Monica tuag at ymgysylltu’n ddyfnach â’r oes sydd ohoni. Er eu bod yn dal yn driw i’w hawydd i symud pobl drwy harddwch eu ffurfiau, maent hefyd yn cydnabod bod angen iddyn nhw fel artistiaid fod yn rhan o sgwrs fwy am daith dynoliaeth a’r heriau sy’n ein hwynebu. Daeth hyn i’r amlwg yn 2018 pan wnaethant hongian cwch 20 metr wedi'i wneud o 100 o amfforâu yng Nghorff Eglwys Gadeiriol Caergaint yn 2018 – gwaith a oedd yn adlewyrchu canlyniadau parhaus rhyfel a sefyllfa ffoaduriaid.

Mae eleni yn dathlu Blwyddyn Gwydr y Cenhedloedd Unedig yn ogystal â 40 mlynedd ers i Philip Baldwin (g. 1947) a Monica Guggisberg (g. 1955) ddechrau gweithio gyda’i gilydd o’u stiwdio yn Nonfoux, y Swistir. Heddiw, maent yn byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, ychydig i’r gogledd o Lanandras. 

Bydd y cyflwyniad yn cynnwys rhagflas o ddarnau o’u harddangosfa newydd yn y Musée du Verre de Conches, sy’n agor ar 25 Mehefin. Teitl y sioe yw ‘Amphore Métaphore’, ac mae’n datgelu diddordeb parhaus Philip a Monica mewn amffora a’i hanes – llestr sydd wedi ennyn diddordeb artistiaid sy’n gweithio gyda gwydr, yn cynnwys nhw eu hunain, am filoedd o flynyddoedd: ffurf mor gynhenid i ddynoliaeth fel ei bod yn ailymddangos dro ar ôl tro ar draws milenia a diwylliannau gwahanol, o Tsieina i India a Siberia i’r Dwyreindir.  

Yng ngeiriau’r beirniad celf o America, James Yood, pan ysgrifennodd am arferion Baldwin a Guggisberg: ‘Mae ein presennol wedi’i wreiddio yn ein gorffennol ond rydyn ni bob amser yn mynd i rywle newydd’. 

 

Delwedd: 

Peoples' Wall, 2018 (detail) 

Blown and cold-worked glass and steel

240 x 180 x 25 cm

Llun: Alex Ramsay

<< Yn ôl tudalen