Eich Hymweliad

 

Header image: Lle Arddangos Oriel Mission. Dau fwrdd yn dal casgliad o waith serameg Justine Allison.

 

Ein Cyfeiriad

Mission Gallery,
Gloucester Place,
Yr Ardal Forol,
Abertawe, SA1 1TY

 


 

Ein Horiau Agor

Ar agor 11yb - 5yp, dydd Mercher i Sadwrn
Ar gau dydd Sul, Llun a Mawrth.
Mynediad am ddim.

 


 

Hygyrchedd 

Ceir mynediad drwy fynedfa un-ris o lefel y palmant drwodd i’n prif fynedfa. Ceir mynediad gwastad ar hyd a lled yr holl ofodau arddangos. Mae ramp cadair olwyn hefyd ar gael ar gais.;Staff ar gael i gynnig cymorth;. 

Llawr gwastad i’r oriel, sydd yn cynnwys arddangosfeydd, siop a toiled. Grisiau yn unig i gyrraedd y lle addysg ar y llawr cyntaf. 

  


 

I Gyrraedd

Saif Oriel Mission ym Marina Abertawe ger canol y ddinas. Rydyn ni’n 15 munud o waith cerdded o orsaf drenau Stryd Fawr Abertawe a 10 munud o orsaf fysiau ganolog Abertawe.

 


  

Parcio 

Lleolir y meysydd parcio talu ac arddangos agosaf y tu cefn i Oriel Mission yn y Tŷ Pwmp a hefyd yn Somerset Place, sy’n 5 munud o waith cerdded. Mae mannau parcio hefyd ar gael yn Gloucester Place; fodd bynnag, mae defnyddio’r system Parcio a Theithio ar Ffordd Fabian yn ddewis doeth oherwydd y parcio cyfyngedig.

 


 

Good to go logo  Logo Cynnig Cymraeg

 

Cysylltu

CysylltuProsiect Partneriaeth

19 Hydref - 02 Tachwedd 2024

Mwy