Y Sgrin

  • Header image

When We Build AgainJonathan Powell

02 Gorffennaf - 04 Awst 2013

Ymgorffora fy ngwaith syniadau o lloches a’r wlad delfrydol ac archwiliaf y rhain trwy beintio ac arlunio.

Daw’r teitl o faniffesto ail-ddatblygu Birmingham yr 1940au wedi’i ddylunio i wella ansawdd bywyd trigolion wrth gwaredu’r slymiau ac ail-gartrefu’r tlawd, ag arweiniodd i adeiladu blociau o fflatiau uchel gwnaeth beryglu etifeddiaeth cymdeithasol, gan greu problemau adeiladol ac econemegol gwnaeth beryglu etifeddiaeth cymdeithasol, gan greu problemau adeiladol ac econemegol. Mae datblygiadau’r dyfodol yn cynnig cyfle i ail-ddylunio a gwella prosiectau ac i ateb anghenion cenhedlaeth newydd. Bydd y penseiri a datblygwyr trefi yn dysgu o’r gorffennol neu a fydd hanes yn ailadrodd ei hun?

Arddengys fy ngwelediad When We Build Again strwythurau tebyg i llochesau plant; fel petai’r rhain wedi’u creu gan blant, blociau adeiladol wedi’u hachub o weddillion adeiladau a dinasoedd cynt. Adeiladau diffygiol y dyfodol, ymarferol fel datblygiad proses ail-ddatblygiad gan adael trail o adeiladau gwag, sydd ar fin dymchwel sydd yn newid i cofgolofnau methiant cynt.

Gwagleoedd di-drefn sydd yn arbrofi gyda rheolau a parametrau cudd yw’r peintiadau a’r darluniau yma; mae rhai’n ofer, rhai heb eu meddiannu a rhai’n angyflawn. Maent yn ffurfio strwythurau seicolegol allanol sydd wedi eu neilltuo ond hefyd yn gysylltiedig, gan ffurfio dinas  ansicr ar stiltiau. Yn anghysylltiedig o’r ddaear ond yn gysylltiedig i greadigrwydd, mae’r peinitadau yma yn tystioli dyfeisiant pensaernїol a’r chwilio angerddol am yr angen cyntefig o lloches.

<< Yn ôl tudalen