Y Sgrin

  • Header image

What it’s like (being me)Jack Moyse

27 Mai - 29 Gorffennaf 2023

Mae Jack Moyse yn ffotograffydd ac yn artist o Abertawe yn Ne Cymru. Mae ei ymarfer yn canolbwyntio ar bynciau y mae’n ystyried eu bod yn faterion cymdeithasol, gan ddefnyddio ffotograffiaeth i fynegi ei farn ar bynciau fel cythreulio mudwyr, gwahaniaethu ar sail gallu ac iechyd meddwl. Yn bennaf, mae methodoleg Moyse yn debyg iawn i fethodoleg ffotograffydd dogfennol. Fodd bynnag, mae ei ymarfer hefyd yn cynnwys cyfryngau artistig eraill fel celf perfformio.

Mae ei brosiect hiraf, What it’s like (being me) yn gyfres ddogfen ddiddorol sy’n dilyn yr artist ifanc wrth iddo geisio dod i’r afael â’r anabledd y cafodd ddiagnosis ohono yn 17 oed. Mae ei fyfyrdodau personol yn sail i naratif sy’n cynnwys rhai o’r materion niferus y mae pobl sy’n byw ag anableddau yn dod ar eu traws, gan gynnwys rhamant, bod yn rhieni a rhagfarn. Gan ganolbwyntio’n bennaf ar ffotograffiaeth, nod cyfryngau cymysg y prosiect yw creu amgylchedd sy’n rhoi mewnwelediad i bobl abl a’r rheini sydd eisiau dysgu mwy am brofiad go iawn pobl anabl. 

Delwedd: Rhan o waith a grëwyd yn Arles, Jack Moyse

<< Yn ôl tudalen