Y Sgrin
West Coast CollageRebecca Spooner
13 Tachwedd - 06 Ionawr 2013
Taith alegrol ar hyd arfordir Gorllewin Cymru.
Cafodd Rebecca Spooner ei gwahodd gan Oriel Mission i gynhyrchu ffilm Super 8 newydd i’w gyflwyno yn y Lle […].
Caiff gwaith moethus Rebecca eu creu gan ddefnyddio technoleg lo-fi fel ffotograffu polaroid yn enwedig ffilm Super 8 ac 16mm, yn aml i’w cyflwyno gerllaw amrywiaeth o ddeunyddiau naturiol a gwrthrychau darganfedig.
Arweiniodd diddordeb Rebecca ym mheintwyr tirluniau Prydeinig yr 20fed Ganrif, rhai tebyg i Paul Nash, John Piper a Ceri Richards, iddi gymryd cam peintiol i’w gwaith – gan archwilio lliw, golau, ffurf a chyfansoddiad. Caiff y tirlun Gymreig ei ddal mewn motifau ailadroddol – ffiniau, cwm, mynyddoedd, rhaeadrau a bywyd gwyllt, a ddaw yn drosiadau teimladau ac angerddau dynol.
Darganfydda Rebecca ysbrydoliaeth yng nghyfeiriadau llenyddol a thechnegau yn adlewyrchiad bywyd amaethyddol gwaith Laurie Lee a golygfeydd llachar ac atmosfferig gwaith Daphne Du Maurier, llawn gwallau pathetig a naws yr anghyfarwydd.
Trwy yr aml-gyfrwng a’r cysylltiadau llenyddol, artistig ac amgylcheddol gwahodd gwaith Rebecca
ymateb personol, greddfol.