Y Sgrin

  • Header image

We EchoTaylor Edmonds

26 Tachwedd - 14 Ionawr 2023

Mae We Echo yn ffilm ddawns a barddoniaeth sy’n adrodd stori hudol am ferch sy'n perthyn i’r byd dynol a’r byd naturiol. Mae hi’n gadael y ddinas sy’n marw ac mae hi wedi bod wrth ei bodd yn dychwelyd i fyd natur ac yn helpu’r tir i wella. Drwy giplun o’i gorffennol, rydyn ni’n dysgu mai dyma yw tynged llinach merched ei theulu, y mae pob un yn cael eu galw i ddychwelyd i fyd natur ger y môr drwy freuddwyd am ddiwedd y byd.

Wedi’i hysbrydoli gan gyfnod Taylor fel Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, mae We Echo yn archwilio’r ffyrdd rydym yn gynhenid gysylltiedig â byd natur; ar gyfer ein goroesiad, ein lles a’n ysbrydolrwydd. Mae’r darn yn ceisio creu mytholeg ynghylch y cysylltiad rhwng pobl a byd natur drwy ddelweddau hud a breuddwydiol. 

Mae Taylor Edmonds yn fardd ac yn awdur o’r Barri yn Ne Cymru. Mae ei phamffled barddoniaeth gyntaf Back Teeth allan yn awr gan Broken Sleep Books. Hi oedd Bardd Preswyl 21-22 Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac mae wedi ennill  Gwobr Sêr Newydd gan Llenyddiaeth Cymru. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi neu wedi cael sylw gan Barddoniaeth Cymru, BBC Cymru, Butcher’s Dog, Gŵyl Farddoniaeth Cheltenham Parthian, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Senedd.

 


Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Taylor Edmonds gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru.

Perfformiwyd a choreograffwyd gan Jodi Ann Nicholson

Ffilmiwyd gan Josh Hopkin

Steilio gan Hannah Andrews

Golygwyd gan Luna Tides Productions

Cyfieithu creadigol i’r Gymraeg gan Nia Morais

<< Yn ôl tudalen