Y Sgrin

  • Header image

Vida e MorteNatalia Dias

03 Hydref - 31 Hydref 2011

Ennillydd y Fedal Aur yn Eisteddfod Cenedlaethol Cymru 2010. Artist Portiwgaleg ydyw wedi’i lleoli yng Nghymru, gweithia yn bennaf yn cerameg ac y mae’n adnabyddedig am ei chalonnau a gwrthrychau cerameg. Dechreuodd Vida e Morte pan oedd Natalia yn astudio ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd. Cyfieitha Vida e Morte i ‘Bywyd a Marwolaeth’ ac i Natalia mae’r gwaith yn symboli hanfod y cyflwr dynol; yn ymgorffori cariad, natur, bywyd a marwolaeth.

Wrth weld potensial Natalia fel artist gweledol, rhoddodd Oriel Mission y cyfle iddi archwilio a datblygu ei thechneg o greu rhinweddau darfodedig yn cerameg. Meddianna cerameg Vida e Morte briodwedd dros-dro lle mae’r gwaith â diwedd agos a dinistriol, gan adael ond lludw. Awgryma’r gwaith ein breuder a’n tueddiadauhunan ddinistriol a’r cryfder mewnol i atgyweirio a chodi o’r lludw. Mae cylch natur yn ingol yn anadliad curol rhythm cyson y gwaith fideo.

Dengys Vida e Morte  yn flaenorol fel fideo, ond y mae’n fyw o fewn Oriel Mission fel darn sefydledig, gan ei arddangos yn y rhaglen Gwneuthwr mewn Ffocws a’r Lle [..]. Yn y cyfle unigryw yma o weld y ddau darn gyda’i gilydd, mynegir breuder darfodedig bywyd a’i brydferthwch gostyngedig, o ddechreuad y darn i’w ddiwedd agos

<< Yn ôl tudalen