Y Sgrin

  • Header image

TweeterNicolas William Hughes

01 Medi - 30 Ionawr 2011

Prosiect ymchwil yw Tweeter sydd yn archwilio gwrthunedd ein perthynas gydag adar gerddi a’r syniad o drosglwyddiad anthropomorffig diwylliannol.

Disgrifiad o’r ffordd mae pobl neu anifeiliaid o fewn cymdeithas yn dueddol o ddysgu a trosglwyddo gwybodaeth newydd yw trosglwyddiad diwylliannol. Nodwedd allweddol diwylliant yw nad yw wedi’i drosglwyddo’n biolegol o’r rhieni i’r plant, ond wedi’i ddysgu trwy brofiad a chyfrannu. Trosglwyddiad anthropomorffig diwylliannol yw’r term defnyddiaf i archwilio’r gwerthunedd yn angen dyn i reoli’r amgylchedd naturiol o’i amgylch. Cymerais y perthynas sydd gennym ag adar gerddi fel prif esiampl o drosglwyddiad anthropomorffig diwylliannol. Ymrwyma nifer mawr o rywogaethau adar mewn dysgu diwylliannol; mae’r dysgu hyn yn allweddol i oroesiad rhai rhywogaethau.

Amgylcha’r prosiect nifer o ddarnau celf gwahanol, wedi’u datblygu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau a chanlyniadau creadigol gan gynnwys darnau sefydledig, prosiectau cyfranogol, perfformiadau, ffotograffaeth a fideo. Yn y gwaith â grewyd i Tweeter mae cymeriad cyffredin i’w weld – y “bird man”. Cymeriad allblyg o fy hun ydyw sydd yn edrych am atebion symudol mewn perfformiadau ac wrth ymrwymo mewn sgyrsiau gall greu perthnasau.

<< Yn ôl tudalen