Y Sgrin

  • Header image

The TempestVirginia Head

19 Tachwedd - 08 Ionawr 2012

Artist a gwneuthurwr ffilm yw Virginia Head. Mae ei hymarfer yn cynnwys arlunio, darnau sefydledig a ffilmiau animeiddio. Arddengys Virginia ar draws Cymru, yn taflunio’i ffilmiau mewn orielau, digwyddiadau cerddoriaeth byw a gwyliau animeiddio rhyngwladol. Yn 2006 daeth yn ail yng Ngwobr Artist y Flwyddyn Cymru yn Neuadd Dewi Sant gyda’i ffilm Pelegrina, taith gerddorol yn darlunio bywyd offeryn llinynnol anghyffredin.

Am saith mis yn 2010 cyd-weithiodd Virginia gyda cherddorfa Philharmonic Caerdydd i gynhyrchu ffilm i ymateb i Sibelius' Prelude to the Tempest. Cafodd y gerddoriaeth ei ddewis gan yr artist wedi iddi glywed y darn am y tro cyntaf ar ôl awgrymiad arweinydd y gerddorfa, Michael Bell.

Cafodd Virginia ganiatad arbennig i arlunio o fywyd yn ymarferion Philharmonic Caerdydd lle datblygodd cysyniadau y ffilm. Arweinodd y sylw yma at astudiaethau niferus o’r chwarae rhwng yr arweinnydd a’r cerddorion a thrawsnewidodd i ddilyniad animeiddio. Sgôr dramatig ac angerddol Sibelius death yn ysbrydoliaeth i lliw, tymer a chyflymder y darn.

Cydnabydda Virginia dylanwad dau artist tirlun rhamantaidd, William Turner a Caspar David Friedrich. Cyfeiria‘r ddelwedd o ffigwr unig dynol yn gwynebu natur anferthol at gymeriad Shakespeare, Prospero, a greodd storm yn y ddrama, a rhan yr arweinwr i gadw’r cerddorion mewn amser a harmoni.

Defnyddiodd Virginia amrywiaeth o dechnegau i wneud yr animeiddio hyn: gan weithio yn union o dan y camera creїr tirluniau llifol lle gwelir ansawdd cyffyrddol y defnyddiau o ganlyniad i modd cymhwyso a dileu pastel ar bapur gwead. Trefnir y dilyniad ffigurol mewn amser gyda’r cerddoriaeth wrth arlunio pob symudiad bach unigol ar darnau gwahanol o bapur. Cafodd y ddwy elfen yma eu haenu’n ddigidol a’u golygu i’w gilydd.

Gwnaeth Virginia saith mil o ddarluniau, darnau dyfrlliw a symudiadau pastel tra’n gwrando i’r cerddoriaeth yn olynol, er mwyn darganfod y rhyfeddod a’r ofn mae Tempest Sibelius yn ei greu. Wrth wylio’r gerddorfa ar waith cafodd Virginia mewnwelediad i’r tueddiadau tôn, tempo a lliw ddaw o bob perfformiad byw. Gobeithia Virginia i’r animeiddio fod yn ganmoliaeth ac yn atsain o’r tueddiadau hyn ac ychwanega haen arall i’r darn.

<< Yn ôl tudalen