Y Sgrin

  • Header image

The Nightmare RoomSean Vicary

28 Mai - 30 Mehefin 2013

Artist wedi’i selio yng Ngorllewin Cymru yw Sean Vicary. Astudiodd peintio yn wreiddiol ond tyfodd ei ddiddordeb yn y posibilrwydd o weithio gyda chyfrwng amser, mae ei ddarnau delwedd symudol wedi’u darlledu yn y Deyrnas Unedig a’u harddangos yn fyd-eang. Archwila prosiectau diweddar syniadau gwagle ac hunaniaeth trothwyol, gan gyfuno darnau fideo sefydledig gydag animeiddio safle-penodol wedi’u cyflwyno trwy ychwanegu porwr realiti i ffôn smart. Prosiect aml-blatfform  sydd yn defnyddio deunydd safle-benodol, animeiddio a realiti trothwyol i archwilio trawsffurfiad a pŵer chwedlau yw Yr Ystafell Hunllef.

 “Prif bryderon fy ngwaith yw y syniadau o ‘dirlun’ (mewnol ac allanol) a’r rhyngweithiad gwleidyddol cynyddol gyda’r byd ‘naturiol’. Defnyddiaf gwrthrychau darganfedig a darnau o falyrion i archwilio’r berthynas yma, gan manipiwleiddio’r nodweddion yma mewn lle rhithwir i greu casgliadau animeiddiol. Gweithia rhain fel cliciedau i’r gwyliwr, weithiau’n awgrymu naratif lledaenach neu’r prosesau cudd sydd ar waith y tu ôl i’r gweladwy.”

<< Yn ôl tudalen