Y Sgrin

  • Header image

Tender Men | Blodeuwedd's GiftHanan Issa

10 Awst - 17 Medi 2022

Mae Hanan yn fardd, gwneuthurwr ffilmiau ac artist Cymreig-Iracaidd. Perfformiwyd ei monolog buddugol With Her Back Stright yn Theatr y Bush fel rhan o'r Hijabi Monologues. Roedd hi hefyd yn rhan o’r ystafell awduron ar gyfer cyfres arloesol Channel 4 We Are Lady Parts ochr yn ochr â’i chreawdwr nodedig, Nida Manzoor. Mae Hanan yn gyd-sylfaenydd cyfres meic agored Where I’m Coming From. Enillodd gomisiwn Ffilm Cymru 2020/BBC Wales am ei ffilm fer The Golden Apple yn ogystal â gwobr Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru yn 2021. Hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd.

Mae Tender Men yn archwilio gwrywdod o safbwynt dynion lliw. Mae Ocean Vuong, awdur a bardd Fietnamaidd-Americanaidd, yn awgrymu bod gwrywdod yn aml yn cael ei wireddu drwy iaith a delweddau treisgar. Gan ddechrau gyda chyfres o sgyrsiau a gynhaliwyd gyda dynion o wahanol gefndiroedd ethnig, gyrfaoedd a chredoau, mae Hanan Issa wedi datblygu ail-ddychmygiad clywadwy o sut mae gwrywdod yn dod i’r amlwg. Ariannwyd Tender Men gan brosiect Bwrsari Springboard National Theatre Wales.

 

Ysbrydolwyd y gerdd gan stori ‘Blodeuwedd’ o’r llyfr straeon hynafol, Y Mabinogi. Yn y chwedl werin hon, mae dewin yn cosbi Blodeuwedd drwy ei thrawsnewid yn dylluan ac yn ei gwahardd rhag dangos ei hwyneb yng ngolau dydd eto. Yn draddodiadol, mae’r stori’n cael ei hadrodd o safbwynt dynion, gyda Blodeuwedd a’i mam yng nghyfraith, duwies y lleuad, yn cael eu portreadu’n ‘ddrwg’ am nad ydyn nhw’n cydymffurfio â disgwyliadau cymdeithasol menywod. O ganlyniad, diwedd trist yw ffawd y ddwy. Mae’r ffilm wedi’i lleoli mewn dinas fodern gyda’r nos ac mae’n dilyn taith fenyw unig drwy’r strydoedd tywyll nes iddi sylwi bod ffigwr tywyll yn ei dilyn. Cydweithiodd Hanan gyda Efa Blosse-Mason, fel rhan o New Creatives a gefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a BBC Arts.

 

Delwedd: Rhan o'r ffilm fer 'Tender Men'

<< Yn ôl tudalen