Y Sgrin

  • Header image

St. Catherine's RockEdwin Miles

11 Mawrth - 13 Mai 2023

Mae Edwin Miles yn wneuthurwr ffilmiau. Mae’n dod yn wreiddiol o Swydd Gaerwrangon yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ac mae bellach yn byw yn Ne Llundain. Wrth ddefnyddio teithiau amrywiol o amgylch ei ardal leol fel strwythur i’w waith, mae Edwin yn aml yn astudio’r berthynas rhwng person a lleoliad, cartref a chof, a hynny’n bennaf drwy ddefnyddio ‘MiniDV’. Mae ei waith - sy’n cynnwys dinaswedd Llundain neu dirwedd Prydain - yn cyflwyno pentwr o luniau sy’n debyg i raglenni dogfen a naratif ffuglennol sy’n llywio dryswch seico-ddaearyddol i geisio dod o hyd i rhyw deimlad o berthyn. 

St Catherine’s Rock, sef gwaith diweddaraf Edwin, yw’r cyntaf o gyfres o ffilmiau sy’n ailgylchu hen fideos cartref oddi ar gamera fideo ei daid. Wrth gyfuno deunydd VHS y camera fideo o 2002 â’r deunydd ar y ‘MiniDV’ ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae’r ffilm yn cyflwyno cyfnodau byr o’r gorffennol sy’n ysgogi amser, cof, safbwyntiau a phwysigrwydd (yn ogystal â choffau) lleoliad. Mewn ymgais i fynd yn groes i draddodiadau ffurfiol, mae St Catherine’s Rock yn cyfuno lluniau o’r gorffennol a’r presennol wrth iddynt neidio o amgylch y sgrin i greu daearyddiaeth ar y sgrin, gan fapio canfyddiad a chof, a chreu panorama sydd ar chwâl ac yn ddigyswllt. 

Mae’r ffilm - sydd wedi’i seilio ar wythnos o wyliau - yn dilyn y teulu wrth iddyn nhw ymweld â Chastell Maenorbyr, Wiseman’s Bridge, ac Ynys St Catherine wrth ymyl Traeth y De ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ac eto, er bod niwlogrwydd y VHS ac ysgafnder y ‘MiniDV’ yn ennyn natur anghanfyddadwy a breuder cof, mae traethau Sir Benfro - yn ogystal â’i hadeiladau lliwgar, ei heulwen a’i môr - yn amlwg; mae’n lleoliad perffaith, a bydd y teulu yn ymweld â’r lle bob blwyddyn.

 

Delwedd: St. Catherine's Rock, Edwin Miles

<< Yn ôl tudalen