Y Sgrin
Shaun JamesY Lle [...]
08 Hydref - 10 Tachwedd 2013
I fanteisio ar egni potensial: fel tensiwn band rwber neu cwymp braich anochel dan bwysau sydd yn darparu pwyntiau ymadawol i’ ngwaith. Chwaraeaf gyda phrosesau newydd fel modd i ddeall ac ehangu arnynt; yn fy arwain ymlaen, yn creu tangiadau sydd yn datblygu o’u cymhelliant gwreiddiol – yn caenu neu amsugno deunydd fel symuda’r broses yn ei flaen.
Nid oes gan fy ngwaith cyfeiriad sengl. Ceisiaf weithio’n anwythol gyda newidiadau yn lle – chwarae, casglu a caniatau proses i weithredu, arddweud neu arwain canlyniad. Yn bresennol, mae fy ngwaith yn eistedd rhwng ffurf cerflunol ac offeryn ymarferol. Mae’r darnau o offer hyn yn sgitsoffrenig: yn symud rhwng un peth a’r llall. Fe'u tylinwyd i gael swyddogaethau – swyddogaethau syml fel cynhyrchu marc sengl neu gasglu edau ond wrth eu trin sylwer ar ymestyniad eu canlyniadau. Awgrymir y canlyniadau yma cyfeiriadau newydd a dyfodol potensial gan barhau gyda’r syniad fod y weithred symlaf ar wrthrych neu syniad yn gallu cael effaith adleisio.
Am | Shaun James
Mae Shaun James yn byw a gweithio yng Nghaerdydd. Graddiodd gyda MFA o Fetropolitan Caerdydd yn 2012. Cafodd Shaun ei arddangosfa unigol cyntaf yn Oriel Milkwood – Post:Experiments. Aelod cynt o’r gyweithfa celf BRG, gydag ymrwymiad diweddar yn y comisiwn cyhoeddus – One-Day Collective.