Y Sgrin

  • Header image

Sean Pulestony lle [...]

28 Ebrill - 31 Mai 2015

Mae gwaith Sean Puleston am natur adleisiol eitemau symbolaidd, gan ffocysu ar sut daw lliw yn arwyddocau diwylliannol. Ei dyhead yw creu profiad neilltuol i’r gwyliwr trwy gyfuniadau syml lliw abstract, golau, gwagle a sain. Dylanwadir y gwrthrychau a greir gan ei foesau cymdeithasol a gwleidyddol. Y nod yw bod agweddau unigol y gwaith yn datblygu sgwrs rhwng un a’r llall: cyfosod, cuddio ac amlygu’r nodweddion sylfaenol  mewn cydseiniad anhrefnus.

Wedi ei ysbrydoli gan ei ymchwil i ‘Godiad Merthyr’ 1831, mae cyfres diweddaraf Puleston yn cynrychioli lliw a siap pwerus y baner goch, mewn amrywiaeth o rithiau a deunyddiau gwahanol, bregus a gonest yn eu adeiladwaith. Arwyddlun gwleidyddol yw’r baner goch ond hefyd crair hen ddiwylliant, un sydd yn araf pylu o fewn bywyd modern. Mae’n symbylu act o undod o fewn cymuned, yn uno mewn ymdrech i reoli eu dyfodol. Daeth y gynrychioliaeth yma i gwmpasu delfrydau eraill fel sosialaeth, cenedlaetholdeb, gwladgarwch, cryfder cyweithfa a phwrpas ond hefyd cyfosodiad, gwrthryfela, erledigaeth ac yn anochel, ar adegau, marwolaeth. Mae’r anesmwythder o fewn delweddau Puleston yn ein hatgoffa o natur amheus cydymffurfio i athroniaethau sydd yn bodoli dan faner.

 

Am | Sean Puleston

Astudiodd Sean Puleston ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe gan ennill BA gydag anrhydedd yng Nghelf Gain - Peintio ac Arlunio. Ers 2009 cafodd ei enwebu ar rhestr fer nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr Jane Phillips ac Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae hefyd wedi ei gomisiynu am nifer o weithiau celf cyhoeddus ar raddfa fawr ac wedi arddangos trwy gydol Prydain ac Ewrop.

<< Yn ôl tudalen