Y Sgrin

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Sean OlsenY Lle [...]

06 Awst - 23 Awst 2013

Ffocysa gwaith Sean Olsen ar ryngweithiad personol o fewn cymdeithas a profiadau newidol; anhawsterau neu esmwythder rhyngweithiad cymdeithasol, y muriau â adeiladir a’r rheolau anysgrifenedig dilyna pobl. Ei fwriad trwy ei waith yw i wneud pobl rhyngweithio gyda’r byd a’i gilydd, weithiau bydd hwn yn hwylusog ac weithiau dewisir unigolion ac amlygir eu anghysuron mewn sefyllfa bregus.

Mae Olsen yn creu profiadau cofiadwy ac yn rhyddhau pobl o’u stad golwg goddefol i stad mwy gweithredol gan brofi eu breuder neu eu creadigrwydd, ac weithiau i wneud digwyddiad cudd yn amhosib ei anwybyddu. Gweithia gyda rhyngweithiad mewn ffyrdd gwahanol, caiff y gwaith ei reoli gyda’r person neu grwp, neu sydd ond yn ymwybodol o’u creadigaeth a’u hymateb iddynt. Ailgylcha defnyddiau gan ganiatau gwallau i greu estheteg trwy ail-adeiladu o amgylch y damweiniau a chamgymeriadau, i ffurfio dyluniadau ad hoc manwl a chwilfrydig gan ganiatau rhain i newid a synnu, gan adael y broses yn weladwy yn y gwaith gorffenedig.


Am | Sean Olsen

Ennillodd Sean Gradd Dosbarth Cyntaf yng Nghelf Gain o CSAD (Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd). Yn y dyfodol, ei fwriad yw archwilio cerflunwaith statig gyda rhyngweithiad trwy beiriannau sain interactif. Ei gynllun yw archwilio ffyrdd newydd o gyfathrebu gyda’r gwaith a ffyrdd newydd o recordio allgynnyrch o’r gwaith.

 

Ennillodd Sean Olsen y Wobr Cerfunwaith, ynghyd a Jonathon Anderson, am ei waith ‘Paint-Bot V-2 ’ yng ngystadleuaeth Artist y Flwyddyn Cymru 2013. Mae’r arddangosfa yn rhedeg o Fehefin 10fed i Awst 6ed yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

<< Yn ôl tudalen