Y Sgrin

  • Header image

Scareboar (pang index)Aled Simons

16 Chwefror - 25 Mawrth 2022

Mae’r comisiwn gwaith celf digidol yma ar ffurf naratif arnofiol a gwyriadol sy’n plethu atgofion hiraethlon, ffeithiau dibwys a’r ffug-esoterig. Gofod micro a macro, cyfansoddi a dadelfennu. Talp o Ogledd yr Iwerydd drwy soced llygad dafad sy’n pydru.

Mae gwaith Aled Simons yn ystyried defodau ffug-wyddonol, stori, hiwmor ac atgofion. Yn aml, bydd yn defnyddio dolennu neu ailadrodd - fformatiau’r gif, meme neu zinehollbresennol. Teledu dechrau’r 1990au, a’i fan penodol wrth gyffordd symudiad rhwng darlledu analog a gwylio digidol ar gais. Mae propiau siop jôcs yn amlwg o hyd ac mae’n gweithredu yn y gofod rhwng rhyddhau tensiwn wrth chwerthin a lletchwithdod pethau sy’n mynd ymlaen yn rhy hir neu sy’n syrthio’n fflat ac yn methu.

I gyd-fynd â’r gwaith celf digidol yma, darlledir ffrwd fyw am 7yh ar ddyddiad cloi’r arddangosfa hon (25/03/2022). Crynodeb o ddelweddau ymchwil a gifs animeiddiedig a ffilm hapgael ac wedi’i hail-olygu a fu’n sail i broses y gwaith celf. Bydd Scareboar (pang index) yn eistedd ynghanol y darllediad hwn.

Dolen â’r darllediad am 7yh nos Wener 25 Mawrth 2022 >>> aledsimons.com/live

Scareboar (pang index) Live from Mission Gallery on Vimeo.

<< Yn ôl tudalen