Y Sgrin
Sally Watermany lle [...]
08 Medi - 11 Hydref 2015
Sally Waterman: Translucence
Dilyna ‘February’ (2011) daith catamarán yr artist i Ynys Wyth i fynychu angladd ffrind i’r teulu, gyda’r morlun diflanedig yn cynrychioli ei cholled. Dogfenna ‘Wisdom’ (2013) berthynas teuluol Waterman, a’r tymhorau newidiol dros gyfnod o dair blynedd trwy animeiddiad stop ffrâm. Chwaraea ‘Against’ (2014) gyda chanfyddiad atgof teulu trwy gyfres o ystumiau ailadroddol, wedi eu perfformio gan yr artist wrth iddi geisio ymgorffori’r delweddau prosiectiol gymrodd o’i mamgu, cyn iddi ddarfod ugain mlynedd yn ôl.
Mae’r gyfres fideo ‘Translucence’ yn myfyrio ar farwoldeb, colled ac atgof trwy sgôr cerddorol Donna McKevitt (1998) ac ysgrifenyddiaeth y gwneuthurwr ffilm, Derek Jarman.