Y Sgrin

  • Header image
  • Header image
  • Header image

Ruth SewellY Lle [...]

24 Awst - 08 Medi 2013

‘Celf Oedd Bopeth, Popeth Oedd Celf’ geiriau o foliant  am Partircia Briggs, artist annwyl o Abertawe a hunodd yn 2012. Defnyddiodd Briggs ddeunyddiau darganfedig yn ei gwaith, parhad i’w angen obsesiynol i gasglu ac ailgylchu a llenwodd ei thŷ llawr i’r nenfwd gyda phaentiadau, darluniau, gwisgoedd, ffigyrau, teganau, cerflunwaith, crochenwaith – eitemau cudd a fyddai wedi eu colli i’r sbwriel.

 

Cyflwyna’r  ffilm ni i fwthyn Briggs ar Stryd Vincent ar ôl tair wythnos o glai dyfal, a ddanfonodd nifer o’i chasgliad yn ôl i’r siopau elusen lle tarddiant. Hyd yn oed ar ôl tair wythnos roedd yn glir nad oedd y tŷ wedi ei ddefnyddio fel lle domestig gweithiol ers nifer o flynyddoedd; gwageïr y bath, ffwrn a’r sinciau yn araf ond maent yn parhau i fod yn llawn o gasgliadau; y gwely wedi ei gladdu oddi tan mynydd o recordiau, llyfrau a kitsch; a chaiff haenau trwchus o ddwst eu darganfod mewn llefydd heb eu cyffwrdd na’u defnyddio ers blynyddoedd. Wrth i’r tim, gan gynnwys Andrew Douglas-Forbes, Kathryn Faulkner a Robin Sewell weithio trwy’r holl dŷ darganfyddant drysorau bendigedig a darnau o gelf coll.

 

Archwilia ‘Celf Oedd Bopeth’ etifeddiaeth artist unigryw a ffrind ecsentrig. Cynniga bortread personol o gasglwr obsesiynol a cwestiyna grym symbolig etifeddion  materol. I ehangu y dyfyniad o foliant Richard Briggs, brawd Pat: “ Roedd hi’n gallu darganfod swyn cyfartal wrth edrych i fyny i’r sêr ac wrth edrych i lawr i sgip. Ni ymlaciodd ei hymarfer. Iddi hi, celf oedd bopeth, a phopeth oedd celf.”

 

Am | Ruth Sewell

Ffotograffwr a gwneuthurwr ffilm yw Ruth Sewell o Lundain. Cyfarwydda hysbysebion, fideos cerddoriaeth a ffilmiau byr ac mae hi ar hyn o bryd yn ysgrifennu ei darn nodweddiadol cyntaf. Mae ei  ffilm byr, ‘Fish Love’, yn teithio’r gylched gwyliau.

<< Yn ôl tudalen