Y Sgrin

  • Header image

Rob Jonesy lle [...]

17 Chwefror - 18 Mawrth 2018

Rhwydwaith tanfor annealladwy o raffau angor llongau tanfor yn cysylltu’r rhyngrwyd at ei gilydd, daearyddu yn ei fateroldeb. Teithia data fel golau ar hyd y rhaffau ffibr tanddaearol yma gan ailgodi unwaith eto fel data tra gymer ffotograffiaeth (ddigidol) golau o’r byd fel ei bwynt dechrau a’i drosi i god fel data.

Taith golau yw’r Prosiect SOLAS sydd yn ystyried y berthynas rhwng natur a thechnoleg ac sydd yn gofyn cwestiynau o amgylch lle ffotograffiaeth yn y 21ain Ganrif lle mae ffocws pŵer wedi ei selio o amgylch ffibr optig yn hytrach na’r nerf optegol. Yn rhannol astudiaeth o gynrychiolaeth ac abstractiaeth yn ffotograffiaeth, rhan astudiaeth o’r rhyngrwyd fel heterotopia yn cyfosod y gwirioneddol gyda’r rhithwir, athronydda’r Prosiect SOLAS gan ddefnyddio cyd-destunau Deleuzian megis gwahaniaeth (ac ailadrodd) a syniadau i ymwneud a tharddiad a mewnfodaeth i ddarganfod ystumiau creadigol, lle mae natur wedi ei drawsosod trwy dechnoleg.

‘Popeth yn Olau’ - daw’n drosiad lle mae data yn olau a golau yn ddata a cheisia gwestiynu trwy’r Prosiect SOLAS y berthynas rhwng golau a data. Arweinia hyn i archwiliad gan ofyn “sut gellid defnyddio data crai i adeiladu delweddau’r byd trwy ffotograffiaeth?” Trwy archwilio ffyrdd i greu cysylltiad o fewn rhwydwaith datblygol rheisomatig, daw lluniau’n ‘fwyd’ a fwyteir gan gelloedd myceliwm a drosir i god wrth brosesu algorithmau, gan roi ffotograffiaeth trwy ei ystumiau, gan arwain i fyfyrdod o’i rôl o gynrychioli ac abstractio’r byd i ddelweddau a gofyn unwaith eto “beth mae ffotograffiaeth wedi dod yn yr oes rwydweithiol?”

 

Bywgraffiad: Rob Jones

Seliwyd Rob Jones yn Abertawe ac mae’n Brif Ddarlithiwr yn Ffilm a Theledu yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

 

<< Yn ôl tudalen