Y Sgrin

  • Header image

Potential Endings SeriesThomas Goddard

31 Ionawr - 16 Mawrth 2012

Cyfres Diweddiadau Potensial (Y Llif, Y Mynydd Rhew, Y Comet a’r Fflamau)

Cyfres o bedwar darn animeiddio syml ond argoelus sydd yn delio â’r bygythiad dadleuol cyson o gynhesu byd-eang. Mae’r gyfres, er yn bygythiol yn yr hyn cynrychiola, wedi’i lunio mewn modd deniadol sydd yn awgrymu dim bygythiad o gwbl. Dengys pob darn ar gylch gan oleuo eu pŵer anllaesol a ddi-stop. Pwynt dechrau y gwaith yw ffilmiau trychineb yr 1970au e.e. The Towering Inferno a gwaith y cyfarwyddwr blockbuster Roland Emmerich, yn cwestiynu ai disgrifiad gor-real trychineb sydd yn effeithio a dygyfor y gwyliwr neu a ydyw cynrycholiad chwareus tebyg i gartŵn  yn dychryn yr un faint. Yn fy nghyfres, mae llai o obaith i’r hil ddynol, sydd yn fy marn i yn golwg llawer mwy realistig.

Bywgraffiad

Graddiodd Tom a BA (Hons) Celf Gain yn 2004 o Brifysgol Gloucestershire ac ers hynny astudiodd Celf Gain Digidol, yng Ngholeg Tower Hamlets, Llundain, gan raddio yn 2006.

Arddangosfeydd unigol yn cynnwys 1961 – 1999 yn Supersaurus, Abertawe; Well, Hello there! Amgueddfa Cheltenham ac Oriel 6 a 7, Oriel Mostyn, Llandudno. Mae Tom wedi gweithio fel artist preswyl ar draws Cymru ar brosiectau gyda Cywaith Cymru er enghraifft Ail-ddatblygiad Trêf Caergybi ynghyd â comisiynau i weithio gyda grwpiau cymdeithasol ar hyd y wlad.

Prosiectau diweddar yn cynnwys XSC sef platfform i artistiaid Caerdydd feirniadu a chymorth gwaith ei gilydd a 11433.83 cyfnewid cymdeithasol rhyngwladol rhwng Cymru a Seland Newydd cyd-gyfarwydda Tom gyda Jemma Bailey. Yn 2010 lansiwyd Cerbyd, prosiect lle teithiodd 10 artist dewisol ar hyd Cymru, i adeiladu cysylltiadau  pwysig gyda chymdeithasau wrth ymweld ag amrywiaeth o grwpiau cymdeithasol gan greu darnau celf i ateb. Syniad Cerbyd oedd i gyduno artistiaid trwy deithio, gweithredoedd, cydweithio a deialog.

Arddengys ei waith yn ddiweddar yng Nghystadleuaeth Artist y Flwyddyn Cymru yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, a cynrychiolir Tom gan Mermaid and Monster gan arddangos wrth eu hochr yn Manceinion Cyfoes yn Hydref. Mae Tom wedi sefydlu’i hun yng Nghaerdydd, ysgrifenna i gylchgrawn a-n am gelf cyfoes yng Nghymru a gweithia rhan amser fel Swyddog Addysg i Oriel Gelf Glynn Vivian. Dychwelodd yn ddiweddar o weithio ar gynllun arolygwr plus Cymru ym Miennale Venice ac mae’n adnebyddadwy yn genedlaethol am ei waith yn addysg oriel gan dderbyn Gwobr Marsh am arbennigrwydd.

<< Yn ôl tudalen