Y Sgrin

  • Header image

Noson PizzaAlternative Dialogues

27 Hydref - 11 Tachwedd 2012

Cyflwynir Oriel Mission Alternative Dialogues wedi ei arwain gan Owen Griffiths yn ystod Awst. Yn dilyn deialogau llwyddiannus gyda’r gymuned creodd Vetch Veg eisioes, cynnigir cyfnewid pizza am ddim am syniadau yn ymwneud â’r gymuned i drigolion Sandfields.

Dros yr wyth mis diwethaf, mae’r artist Owen Griffiths wedi gweithio’n agos gyda trigolion Sandfields ar drawsnewid rhan o dir peldroed y Vetch i ardd llysiau gymunedol – Vetch Veg. Dathlodd y gerddwyr cynhaeaf Mehefin gyda gwledd a sioe cynnyrch tu allan i awyren Adain Avion fel rhan o Olympiad Diwylliannol Llundain 2012.

Nawr, mae Vetch Veg yn symud ymlaen i’r cam nesaf – Alternative Dialogues mewn cydweithrediad ag Oriel Mission. Nod y prosiect yw cynhyrchu syniadau a thrafodaethau o fewn y gymuned am beth all ddyfodol y Vetch Veg a Sandfields fod. Dywed yr artist Owen Griffiths,

 “Gwahodd Alternative Dialogues bobl i feddwl yn greadigol am eu dyfodol cyfunol. Mae’r noson pizza yn gobeithio ehangu perthynas y Vetch a trigolion Sandfields. Rydym ni’n annog trigolion i ddweud mwy am eu syniadau am fel gallwn newid Abertawe. Cyfnewidir pizza am syniad ar sut all Abertawe droi’n baradwys gwyrdd.”

Dylunio Graffeg gan Matthew Otten

<< Yn ôl tudalen